Edrych ymlaen ...

Addunedau Blwyddyn Newydd

Y Felin             

   Llanaber      

       Ceredigion

05 Ionawr 2016

Annwyl Ciwb,

 

Mae llawer o bobl yn gwneud addunedau Blwyddyn Newydd ym mis Ionawr.  Mae rhai pobl ifanc yn dweud, “Dw i’n mynd i ddarllen llyfr newydd bob mis.” Mae rhai’n dweud, “Bydda i’n treulio mwy o amser gyda ffrindiau neu’r teulu.” Mae rhai pobl eisiau cadw’n heini neu fwyta’n iach ac mae rhai pobl yn dweud, “Dw i’n mynd i stopio cweryla gyda fy mrawd a fy chwaer.” Mae rhai pobl yn meddwl, “Dw i eisiau bod yn ffasiynol – dw i’n mynd i brynu dillad ffasiynol eleni.”

 

Ond mae rhai pobl ifanc yn gwneud addunedau eraill. Mae un arolwg* yn dangos bod 9 allan o 10 person ifanc eisiau helpu pobl eraill. Mae rhai pobl ifanc yn teithio i Affrica neu i Asia i helpu mewn ysgolion neu ysbytai, er enghraifft. Dw i’n rhy ifanc i deithio i Affrica neu i Asia ond dw i’n mynd i helpu pobl eraill eleni. Unrhyw syniadau?

 

Gyda llaw, dw i wrth fy modd gyda chwaraeon a dw i’n dda am goginio. Dw i’n gallu gweithio’n dda gyda phobl hefyd – yn enwedig plant.

 

Diolch,

Lyn Evans

* Arolwg Raleigh International

Help
Geirfa
addunedau resolutions
treulio to spend (time)
cadw’n heini to keep fit
cweryla to quarrel
bod to be
arolwg survey
dangos to show
ysbytai hospitals
er enghraifft for example
rhy ifanc too young
gyda llaw by the way