Edrych ymlaen ...

Eleni, bydda i’n ...

Eleni, bydda i’n ...

01 Ionawr, 2016

Annwyl ddyddiadur ...

O, dw i wedi blino ond mae hi’n Ionawr 1, felly dyma fy addunedau Blwyddyn Newydd:

Bydda i’n bwyta’n iach. Fydda i ddim yn bwyta creision bob dydd.

Bydda i’n ffrind da – i fy ffrindiau ond hefyd i fy chwaer (!!!).

Bydda i’n safio arian i brynu tabled.

Bydda i’n dechrau hobi newydd - cic focsio. Bydda i’n beicio mwy hefyd.

Bobl bach, dw i wedi blino. Hwyl fawr!

Help
Gerifa
eleni this year
dyddiadur diary
felly so, therefore
fy my
yn iach healthily
bob dydd every day
prynu to buy
cic focsio kickboxing

01 Ionawr, 2016

Annwyl ddyddiadur ...

Dw i’n teimlo’n wych heddiw! Beth ydw i’n mynd i wneud eleni? Wel ...

Bydda i’n dysgu gyrru.

Bydda i’n cael gwaith rhan-amser – mewn caffi neu siop – achos dw i eisiau safio arian i brynu car bach.

Bydda i’n cadw’n heini. Bydda i’n mynd i ddosbarth Bokwa yn y ganolfan hamdden a bydda i’n beicio gyda fy ffrindiau.

Help
Geirfa
gyrru driving, to drive
rhan-amser part-time
canolfan hamdden leisure centre

01 Ionawr, 2016

Annwyl ddyddiadur,

 Mae hi’n Flwyddyn Newydd a dw i’n teimlo’n bositif iawn.  Dyma fy addunedau Blwyddyn Newydd:

  • Bydda i’n mynd allan mwy – bydda i’n cadw’n heini yn y ganolfan hamdden a bydda i’n beicio yn y wlad gyda fy nheulu ar ddydd Sadwrn.
  • Bydda i’n dysgu Ffrangeg – ar y we neu mewn dosbarth nos.
  • Bydda i’n peintio’r tŷ.

Dw i’n edrych ymlaen ...

Help
Geirfa
yn y wlad in the country
fy nheulu fy family
ar y we on the internet

Beth ydy’r geiriau Saesneg?
  • cic focsio
  • dosbarth nos