Es i i Tafwyl yn yr haf ac roedd e’n wych. Nawr, dw i eisiau clywed mwy o fandiau Cymraeg.
Tafwyl? Beth ydy Tafwyl?
Gŵyl Gymraeg yng Nghastell Caerdydd.
Gŵyl Gymraeg?!?!?!? Diflas dw i’n meddwl!
Oedd “Welsh cakes” yno?
Welais i ddim pice ar y maen.
Oedd cawl cennin yno?
Welais i ddim cawl cennin.
Beth am gennin Pedr?
Welais i ddim cennin Pedr.
Beth oedd yno ’te?
Wel, roedd llawer o fandiau Cymraeg yn perfformio – roedden nhw’n wych.
Bandiau Cymraeg?
Bandiau Cymraeg!
Mae llawer o fandiau Cymraeg gwych o gwmpas.
Dw i’n hoffi Anelog.
Pwy?
Anelog. Os wyt ti eisiau clywed Anelog yn canu, clicia yma: https://soundcloud.com/anelog
Gwranda ar y gân “Siabod”. Mae’r gerddoriaeth yn ddiddorol – mae’r sŵn yn wahanol – mae’r offerynnau’n wych ac maen nhw’n canu’n dda hefyd.
Mae’n well gyda fi fand o’r enw Y Bandana. Os wyt ti eisiau clywed Y Bandana’n canu, clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=PRoOwxWstVY
Mae’r geiriau ar y sgrin hefyd felly mae hynny’n help mawr. Maen nhw’n canu’n ardderchog.
Fy hoff gân i ydy “Coffi Du” gan Gwibdaith Hen Frân. Clicia yma: https://www.youtube.com/watch?v=N5ZHRYVBGok
i glywed y gân ac i weld y geiriau – ac i ganu gyda nhw.
Canu gyda nhw – yn Gymraeg? Dw i ddim yn meddwl.
Dw i’n cytuno – mae bandiau ardderchog yn canu yn Gymraeg. Os wyt ti eisiau clywed mwy, beth am wrando ar raglen C2 ar Radio Cymru.
Iawn!
Geirfa | |
gŵyl | festival |
dim o gwbl | not at all |
pice ar y maen = cacennau cri | Welsh cakes |
o gwmpas | around |
er enghraifft | for example |
gwahanol | different |
offerynnau | instruments |
hynny | that |
Pam lai? | Why not? |
Beth ydy’r geiriau Cymraeg?
bands
perform
Mae’n well gyda fi ... = Mae’n well gen i ... – I prefer ...