Mae’r Urdd yn wych.
Pam?
Achos mae’n bosib cael hwyl – llawer hwyl – yn Gymraeg. Edrychwch ar y sleidiau yma:
Ewch i Dasg 1.
Y dechrau
Pwy: Dechreuodd Syr Ifan ab Owen Edwards yr Urdd.
Pryd: Yn 1922.
Pam: Roedd e’n poeni am yr iaith Gymraeg. Roedd e’n poeni bod plant a phobl ifanc Cymru yn chwarae yn Saesneg ac yn darllen Saesneg – dim Cymraeg. Roedd e eisiau mudiad Cymraeg i blant a phobl ifanc Cymru.
Beth wedyn:
Erbyn diwedd 1923, roedd tua thair mil (3,000) o aelodau yn yr Urdd
Erbyn diwedd 1927, roedd dros bum mil (5,000) o aelodau.
Erbyn heddiw, mae dros bum deg mil (50,000) o aelodau.
Heddiw, mae’r Urdd yn trefnu teithiau ... yn cynnal cystadlaethau ... yn cynnal eisteddfodau a gigs ... yn helpu pobl i fwynhau yn Gymraeg.
HelpGeirfa | |
poeni | to worry |
mudiad | movement |
trefnu | to organize, arrange |
cynnal | to hold (an event) |