Edrychwch ar y sleidiau yma.
Beth sy yn y sleidiau?
Beth: Sinema fach
Hen garafán oedd y sinema ond heddiw mae’n sinema ddiddorol iawn.
Sinema symudol ydy hi – mae’n symud o le i le.
Mae’r sinema’n fach – mae 8-10 person yn gallu gwylio ffilm yn y sinema.
Mae’n gyfforddus iawn.
Mae’r sinema’n wyrdd iawn achos mae’n defnyddio paneli haul.
Mae’n dangos ffilmiau byr a ffilmiau Cymraeg. Mae’r cwmni’n gwneud ffilmiau hefyd.
Mae’n bosib prynu popcorn yn y sinema.
Mae’n bosib hurio’r sinema, e.e. i ffair yr ysgol, digwyddiad yn yr ardal.
De Cymru ydy cartref Sol Cinema – ac mae’r merched yn siarad Cymraeg!
Images © Copyright Sol Cinema
Geirfadisgrifiad | description |
gallu | to be able to, can |
cyfforddus | comfortable |
defnyddio | to use |
cwmni | company |
prynu | to buy |
hurio | to hire |