gwaith – work
celf – art
gwaith celf – artwork
Edrychwch ar y llun yma. 
Mae car Volkswagen yn y llun ac mae e’n gwisgo het.
Gwaith celf yn Ontario, Canada, ydy e. Mae’r artist wedi ailgylchu’r car i greu gwaith celf.
Edrychwch ar y llun yma.

Mae poteli lliwgar yn y llun. Mae golau yn y poteli.
Mae’r poteli’n lliwgar. Mae poteli glas, gwyrdd, oren, pinc a gwyn yn y llun. Maen nhw’n eitha bach. Mae’r artist wedi ailgylchu poteli i greu gwaith celf.
Edrychwch ar y llun yma.

Mae eliffant yn y llun.
Mae’r eliffant yn lliwgar. Mae llawer o deganau ar yr eliffant – doli, tedis – ac mae llawer o flodau ar yr eliffant hefyd.
Gwaith celf gan Anthony Heywood ydy e.
| ailgylchu | to recycle |
| creu | to create |
| golau | light |
Beth ydy’r geiriau?
| Gwreiddiol (Original) | Cymraeg | Saesneg |
| Lladin: art | artist | |
| Groeg: elephantinos | ||
| Hen Ffrangeg: boteille | potel |