Rhifyn 16 - Ffantasi

Chwilio am Pokémon

Chwilio am Pokémon

Preswylfa
Abermawr
Powys

01 Chwefror 2017

Annwyl Ciwb,

Ar y ffordd i’r ysgol heddiw, dw i wedi gweld:

  • bachgen ifanc yn cerdded i lawr y stryd tua’r parc, yn edrych ar ei ffôn
  • merch ifanc yn cerdded i fyny’r stryd, tua’r eglwys, yn edrych ar ei ffôn
  • dyn yn croesi’r ffordd, yn edrych ar ei ffôn (doedd e ddim yn edrych i’r dde nac i’r chwith!)
  • plant yn cerdded wrth yr afon, yn edrych ar eu ffonau – peryglus iawn!
  • dyn yn gyrru’r car, yn edrych ar ei ffôn – peryglus iawn!
  • dyn arall mewn car wedi stopio – ar ganol y ffordd – yn edrych ar ei ffôn.

Roedden nhw’n chwilio am Pokémon dw i’n meddwl. Mae llawer o bobl yn cael hwyl yn chwilio am Pokémon ond yn fy marn i, mae hyn yn wirion!

Mae chwilio am Pokémon yn beryglus. Mae’r heddlu’n dweud bod rhai pobl yn cael damwain yn y car achos maen nhw’n chwilio am Pokémon pan maen nhw’n gyrru. Maen nhw’n dweud bod pobl yn stopio’u ceir mewn lleoedd twp i chwilio am Pokémon hefyd.

Pam mae pobl eisiau byw ffantasi Pokémon? Mae’n well mynd allan gyda ffrindiau, gwneud chwaraeon, cael hwyl yn y dre a mwynhau gwneud pethau yn lle edrych ar sgrin drwy’r amser.

Yn gywir,

Jo Williams

Geirfa
   
croesi (to) cross
peryglus dangerous
gyrru (to) drive
gwirion daft
damwain accident
yn lle instead of
drwy'r amser all the time

31 Ionawr 2017

Annwyl Ciwb,

Dw i wrth fy modd yn chwilio am Pokémon gyda fy ffrindiau. Rydyn ni’n mynd am dro o gwmpas y dre i chwilio am y cymeriadau bach yn aml. Mae’n wych. 

Mae rhai pobl yn cael damwain pan maen nhw’n chwilio am Pokémon ond os ydy pobl yn ofalus, mae’n llawer o hwyl. Hefyd, mae chwilio am Pokémon yn dda i ni achos rydyn ni’n cerdded (yn lle eistedd o flaen sgrin!), rydyn ni’n dysgu am bethau yn y dref – pethau dydyn ni ddim wedi gweld o’r blaen efallai (fel darn o gelf) ac rydyn ni’n cael hwyl. Mae chwilio am Pokémon yn rhad hefyd – does dim rhaid i ni dalu i fynd i mewn i’r sinema neu dalu am fwyd mewn caffi.

Dydy Pokémon Go ddim yn ffantasi achos mae’n digwydd yn y byd real!

Yn gywir,

Chris Davies

Geirfa
   
o gwmpas around
cymeriadau characters
yn aml often
pethau things
o'r blaen before, previously
efallai perhaps
darn o gelf piece of art
rhad cheap
byd world