Rhifyn 16 - Ffantasi

Mynd ar wyliau

Rydych chi’n mynd i wylio darn o ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
y lle iawn the right place
yn union exactly
gwesty hotel
bob dydd every day
ymlacio (to) relax
hedfan (to) fly
awyren aeroplane
prynu (to) buy
mae'n ddrwg gen i I'm sorry

Loading the player...
Sgript

 

   
Carwyn: Bore da.
Sophie: Bore da. Croeso.
Carwyn: Diolch. Hoffwn i fynd ar wyliau.
Sophie: Gwych - rydych chi yn y lle iawn, felly.
Carwyn: Da iawn.
Sophie: Sophie ydw i ...
Carwyn: A Carwyn Claude Crawford ydw i.
Sophie: Croeso, Mr. Crawford.
Carwyn: Carwyn ...
Sophie: Iawn, "Carwyn". Ble hoffech chi fynd?
Carwyn: Yma.
Sophie: Yma?
Carwyn: Yma, Sophie ...
Sophie: Ble mae "yma"?
Carwyn: Affrica.
Sophie: I-a-w-n?!? Ond mae Affrica yn lle mawr.
Carwyn: Ydy, dw i'n gwybod.
Sophie: Ble yn union hoffech chi fynd?
Carwyn: I Kenya.
Sophie: Iawn - i Kenya. Beth hoffech chi wneud yn Kenya?
Carwyn: Hoffwn i fynd ar saffari ... Hoffwn i weld llewod, sebras, jiraffod, eliffantod, crocodeilod, orangwtanod ... 
Sophie: Pardwn?
Carwyn: Llewod, sebras, jiraffod, eliffantod, crocodeilod, orangwtanod ...
Sophie: Mae un broblem gyda'r orangwtanod.
Carwyn: O? Beth ydy'r broblem?
Sophie: Does dim orangwtanod yn Kenya.
Carwyn: O ... dim ots!
   
Carwyn: Hoffwn i fynd mewn balŵn dros y Serengeti ... Mmm - neis iawn. Hoffwn i weld y Victoria Falls. Waw - maen nhw'n hardd ...
Sophie: Mae un broblem gyda'r Victoria Falls, Carwyn.
Carwyn: O? Beth?
Sophie: Dydy'r Victoria Falls ddim yn Kenya.
Carwyn: Beth, dydy'r Victoria Falls ddim yn Kenya?
Sophie: Nac ydyn - maen nhw yn Zimbabwe ... a Zambia.
Carwyn: Zim ... bab ...?
Sophie: Zimbabwe ... a Zambia.
Carwyn: Wel! Wel! O wel, dim ots!
Sophie: Sawl person fydd yn teithio, Carwyn.
Carwyn: Un - dw i'n mynd ar fy mhen fy hun.
Sophie: Ar eich pen eich hun?
Carwyn: Ar fy mhen fy hun ... ie - ar fy mhen fy hun.
Sophie: Ble hoffech chi aros?
Carwyn: O, mewn gwesty pum seren os gwelwch yn dda?
Sophie: Pum seren.
Carwyn: Gwesty gyda phwll nofio ... mawr ... braf.
Sophie: Pwll nofio mawr ...
Carwyn: Ie - pwll nofio ... mawr ... hyfryd.
Sophie: Hoffech chi gael brecwast a chinio nos yn y gwesty?
Carwyn: Wrth gwrs. Hoffwn i gael brecwast mawr a chinio mawr yn y nos.
Sophie: Hoffech chi gael ystafell sengl neu ddwbl?
Carwyn: Hoffwn i gael ystafell fawr - ystafell ddwbl, os gwelwch yn dda.
Sophie: Balconi?
Carwyn: Wrth gwrs, dw i eisiau balconi - balconi mawr. Hoffwn i eistedd ar y balconi, yn edrych ar yr anifeiliad.
Sophie: Iawn - dyma westy mawr hyfryd.
Carwyn: O, waw ... neis iawn.
Sophie: Ac maen nhw'n trefnu safari bob dydd os ydych chi eisiau.
Carwyn: Bob dydd? Na, dw i ddim eisiau mynd bob dydd achos hoffwn i ymlacio wrth y pwll nofio hefyd.
Sophie: Dim problem.
   
Sophie: Pryd hoffech chi fynd, Carwyn?
Carwyn: Ym mis Awst. O Awst deg tan Awst dau ddeg pedwar.
Sophie: Iawn - Awst deg ... tan ... Awst dau ddeg pedwar.
   
Sophie: O ble ydych chi eisiau hedfan?
Carwyn: Hoffwn i hedfan o Gaerdydd.
Sophie: Iawn ... ond bydd rhaid i chi newid awyren.
Carwyn: Newid awyren ... dim problem.
Sophie: Ydych chi eisiau i mi gael pris am y gwyliau yma?
Carwyn: Os gwelwch yn dda.
Sophie: Dyma chi - dyma'r pris.
Carwyn: O, diolch yn fawr.
   
Carwyn: FAINT?!?!?!?!?
Sophie: Wel, gwesty pum seren ... pwll nofio ... Kenya ... saffari ... mae'n ddrud!
Carwyn: ond dw i ddim eisiau prynu'r gwesty.
Sophie: Wel, mae'r gwyliau yma'n hyfryd iawn ...
Carwyn: Ond ...
Sophie: Mae'n wyliau ardderchog.
Carwyn: Ond ...
Sophie: Mae'n wyliau anhygoel.
Carwyn: Ond ...
Sophie: Ydych chi eisiau i mi fwcio'r gwyliau?
Carwyn: Bwcio'r gwyliau? Dim diolch!
Sophie: O?
Carwyn: Mae'n rhy ddrud!
Sophie: Mae'n ddrwg gen i.
Carwyn: Ond ... dw i YN mynd i weld llewod, sebras, jiraffod, eliffantod, crocodeilod ... AC ... orangwtanod!
Sophie: O, ble?
Carwyn: Yn y sŵ.
Sophie: Hwyl fawr!
Carwyn: Hwyl fawr!