Darllenwch y sgwrs yma rhwng Chris a Jo.
| Chris: | Beth wnest ti ddydd Sadwrn? |
| Jo: | Es i i chwarae golff troed. |
| Chris: | O neis iawn. Ble? |
| Jo: | Yn Rhuthun. |
| Chris: | Pryd est ti? |
| Jo: | Yn y bore - am ddeg o'r gloch. |
| Chris: | Gyda pwy est ti? |
| Jo: | Gyda'r teulu. |
| Chris: | Beth yn union wnest ti? |
| Jo: | Es i i'r ganolfan golff troed. Cerddais i ar hyd y cwrs a chwaraeais i golff troed. |
| Chris: | Sut mae chwarae? |
| Jo: | Mae golff troed yn debyg i golff - ond rhaid cicio pêl fawr i mewn i dwll mawr yn lle taro pêl fach i mewn i dwll bach. |
| Chris: | Ydy'r cwrs yn debyg i gwrs golff? |
| Jo: | Ydy. Mae coed, bryniau bach a dŵr ar y cwrs - fel cwrs golff. |
| Chris: | Beth wisgaist ti? |
| Jo: | Gwisgais i jîns, crys T a treinyrs. |
| Chris: | Fwynheuaist ti? |
| Jo: | Do, roedd hi'n wych. Mae golff troed yn hwyl. |
| troed | foot |
| yn union | exactly |
| ar hyd | along |
| yn debyg i | similar to, like |
| twll | hole |
| yn lle | instead (of) |
| taro | hit |
| bryniau | hills |
Baner: By Footgolfworld (Own work) [CC BY-SA 4.0 (http://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)], via Wikimedia Commons