Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
Geirfa| bwyty | restaurant |
| Eidalaidd | Italian |
| cyntaf | first |
| brenin | king |
| brenhines | queen |
| iddyn nhw | for them |
| wrth ei bodd | delighted |
| ar ben | on top of |
| cyn hyn | before this |
| Gwlad Groeg | Greece |
| Rhufain | Rome |
| sbeisys | spices |
| olew olewydd | olive oil |
| dim ots | never mind |
Gwyliwch a gwrandewch!
Sgript|
|
|
|
Cyflwynydd: |
Croeso i fwyty Eidalaidd Altalia. Mae bwyd Eidalaidd blasus yma. |
|
|
Ydych chi’n hoffi pizza? Pa fath? Beth ydych chi’n hoffi ar bizza? Beth am …? ham? salami? tomatos? madarch? winwns … neu … nionod? tiwna? pinafa?l Mmm … - blasus iawn. |
|
|
Ond o ble mae pizzas yn dod? Mae rhai pobl yn dweud …: O Naples. |
|
|
Pwy oedd y person cyntaf i wneud pizza? Mae rhai pobl yn dweud …: Raffaele Esposito |
|
|
Ond pwy oedd Raffaele Esposito? |
|
|
Wel, roedd e’n byw yn Naples, yn yr Eidal. Roedd e’n rhedeg bwyty o’r enw Pizzeria di Pietro. Yn 1889, daeth y Brenin Umberto y Cyntaf a’r frenhines Margherita i Naples. Coginiodd Esposito bizza arbennig iddyn nhw – pizza gyda thomatos, caws mozzarella a basil ar y top ... Roedd y pizza yn goch, gwyn a gwyrdd – lliwiau baner yr Eidal ... Roedd y frenhines wrth ei bodd gyda’r pizza a dyna ddechrau’r pizza Margherita – a pizzas eraill hefyd. |
|
|
OND … |
|
|
… mae rhai pobl yn dweud bod pobl Gwlad Groeg a Rhufain wedi bod yn bwyta bara fflat gyda sbeisys cyn hyn. |
|
|
|
|
|
Dim ots ble dechreuodd y pizza, dw i’n gwybod un peth – mae’n flasus. Mmm – blasus IAWN! |