Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Cyn gwylio, dyma ychydig o help os ydych chi eisiau help.
Geirfa| siom | disappointment |
| siomedig | disappointed |
| edrych ymlaen at | (to) look forward to |
| pabell | tent |
| sach gysgu | sleeping bag |
| gobennydd | pillow |
| ar gyfer | for |
| Aled: |
Sut wyt ti? |
| Carwyn: |
Dw i’n siomedig. |
| Aled: | |
| Carwyn: | |
| Aled: |
Pam? |
| Carwyn: |
Wel, es i i gig nos Wener. |
| Aled: |
Gwych. |
| Carwyn: | Gwranda …
HWYL YN Y CAEAU DEWCH I WERSYLLA! DEWCH I FWYNHAU! DEWCH I GAEL HWYL! FFERM YR HAFOD Nos Wener-Nos Sul, Mehefin 9-11 Cofiwch eich pabell a’ch welis.
Roeddwn i’n edrych ymlaen … bandiau … canu da … hwyl … ffrindiau … Ond ... |
| Aled: | “Ond …?” |
| Carwyn: | O … roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen at y gig. |
| Aled: | Wrth gwrs. |
| Carwyn: |
Roeddwn i wedi pacio pabell ... sach gysgu ... gobennydd ... a Fflyffi. |
| Aled: |
Ardderchog! |
| Carwyn: |
Roeddwn i wedi prynu bin – i gario popeth i’r babell. |
| Aled: |
Syniad da. |
| Carwyn: |
Roeddwn i wedi prynu welis – ar gyfer y mwd. |
| Aled: |
Gwych! |
| Carwyn: |
Roeddwn i wedi prynu dillad newydd – dillad “gigio”. |
| Aled: |
O ... ie, wel ... mmm ... |
| Carwyn: | Roeddwn i wedi prynu cot law ... ac ymbarél – ar gyfer y glaw. |
| Aled: |
Da iawn. |
| Carwyn: |
OND ... |
| Aled: |
Ond? |
| Carwyn: |
Roedd hi’n braf ... roedd hi’n heulog ... roedd hi’n boeth iawn. |
| Aled: |
O? … Ie, wel grêt! |
| Carwyn: |
Doeddwn i ddim wedi pacio crys T ... a siorts. |
| Aled: | O! |
| Carwyn: |
Doeddwn i ddim wedi pacio eli haul. |
| Aled: | O! |
| Carwyn: |
Doeddwn i ddim wedi pacio fflip fflops. |
| Aled: | O!! |
| Carwyn: |
A … |
| Aled: |
Ie? |
| Carwyn: |
Problem arall. |
| Aled: |
Beth? |
| Carwyn: |
Doedd dim gŵyl. |
| Aled: |
Beth? Doedd dim gŵyl? |
| Carwyn: |
Doedd dim gŵyl. Dim bandiau … dim canu da … dim hwyl … dim ffrindiau … |
| Aled: |
Pam? |
| Carwyn: |
Sioe anifeiliaid oedd hi - dim gig! |
| Aled: |
O diar! |
