Darllenwch y darn yma gan Jo.
9 Ebrill 2025 Wel, dw i yma! Dw i’n byw ar blaned arall! Dw i’n teimlo’n hapus, ond yn nerfus hefyd achos mae popeth yn newydd iawn. Teithion ni mewn llong ofod am tua saith mis ac roedd y daith yn “ddiddorol” iawn. Roedden ni'n bwyta bwyd "diddorol iawn" hefyd. Beth? Wel, bwyd mewn tuniau a bwyd wedi sychrewi – ych a fi! Dw i ddim yn hoffi bwyd wedi sychrewi achos mae e’n ddiflas iawn! Mae’n well ’da fi fwyd ffres! Roedd rhaid i ni gadw’n heini am dair awr bob dydd ac roedd hyn yn hwyl. Doedd dim cawod na bath ar y llong ofod ac felly roedd rhaid i ni ddefnyddio wet wipes i ymolchi bob dydd. Roeddwn i’n teimlo’n frwnt iawn a dweud y gwir. Teithion ni ... teithion ni ... teithion ni ... yn bellach ... ac yn bellach o’r Ddaear bob dydd. Yna, ym mis Awst, cyrhaeddon ni’r blaned goch. Sut oeddwn i'n teimlo? Roeddwn i’n ofnus iawn ond roedden ni wedi paratoi’n dda ar gyfer y daith, felly doedd dim problemau. Cyn gadael, roedden ni wedi dysgu sut i fyw ar y blaned yma a sut i dyfu bwyd. Roeddwn i wedi cael gwersi coginio achos dw i ddim yn dda iawn yn y gegin! Roedden ni wedi cael dillad arbennig – dillad arbennig iawn i gerdded tu allan a dillad “normal” i fyw tu mewn yn ein cartref newydd. Hefyd, roedden ni wedi cwrdd â’n ffrindiau newydd – pobl eraill o’r Ddaear sy’n byw gyda ni ar y blaned yma. Mae byw yma'n hwyl. Dw i'n gweld pethau newydd bob dydd a dw i'n dysgu sut i fyw yma. Dw i'n hapus iawn. |
Geirfa
popeth | everything |
llong ofod | spaceship |
wedi sychrewi | freeze-dried |
cawod | shower |
brwnt = budr | dirty |
yn bellach | further |
y Ddaear | the Earth |
cyrhaeddon ni | we arrived (at), we reached |
cyn gadael | before leaving |
paratoi | (to) prepare |
tyfu | (to) grow |
cwrdd = cyfarfod | (to) meet |
sy'n byw | who live |