Darllenwch y sgwrs yma rhwng Chris a Jo.
Chris: | Beth wnest ti ddydd Sadwrn? |
Jo: | Es i i chwarae golff troed. |
Chris: | O neis iawn. Ble? |
Jo: | Yn Rhuthun. |
Chris: | Pryd est ti? |
Jo: | Yn y bore - am ddeg o'r gloch. |
Chris: | Gyda pwy est ti? |
Jo: | Gyda'r teulu. |
Chris: | Beth yn union wnest ti? |
Jo: | Es i i'r ganolfan golff troed. Cerddais i ar hyd y cwrs a chwaraeais i golff troed. |
Chris: | Sut mae chwarae? |
Jo: | Mae golff troed yn debyg i golff - ond rhaid cicio pêl fawr i mewn i dwll mawr yn lle taro pêl fach i mewn i dwll bach. |
Chris: | Ydy'r cwrs yn debyg i gwrs golff? |
Jo: | Ydy. Mae coed, bryniau bach a dŵr ar y cwrs - fel cwrs golff. |
Chris: | Beth wisgaist ti? |
Jo: | Gwisgais i jîns, crys T a treinyrs. |
Chris: | Fwynheuaist ti? |
Jo: | Do, roedd hi'n wych. Mae golff troed yn hwyl. |
troed | foot |
yn union | exactly |
ar hyd | along |
yn debyg i | similar to, like |
twll | hole |
yn lle | instead (of) |
taro | hit |
bryniau | hills |