Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Byw yng Ngwlad Groeg

Byw yng Ngwlad Groeg

Byw yng Ngwlad Groeg

Mae Becks Fowkes a'r teulu wedi bod yn byw yng Ngwlad Groeg am 6 mis.

Beth ydy'ch enw chi?

Becks Fowkes.

Ble ydych chi’n byw?

Yng Nghyffylliog, ger Rhuthun.

O ble ydych chi’n dod?

O Lundain.

Beth ydych chi’n hoffi gwneud?

Dw i’n mwynhau canu, chwarae’r gitâr, nofio, cerdded, bod tu allan a darllen.

Pam rydych chi wedi dysgu Cymraeg?

Ar ôl symud o Lundain i Ogledd Cymru, roedd hi’n naturiol i ddysgu Cymraeg. Dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau ar ôl dysgu Cymraeg a dw i’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg.

Beth ydy’ch gwaith chi?

Dw i’n arweinydd Ysgol Goedwig. Dw i’n gwneud sesiynau Cymraeg a Saesneg yn y coed a dw i’n mynd i ysgolion Cymraeg a Saesneg i siarad am y goedwig, y fforestydd glaw a newid yn yr hinsawdd.

Pam aethoch chi i fyw yng Ngwlad Groeg?

Roeddwn i wedi teithio llawer pan oeddwn i’n ifanc ac felly roeddwn i eisiau i fy mhlant i deithio nawr.

Ble oeddech chi’n byw yng Ngwlad Groeg? 

Ar ynys Karpathos.

Sut le ydy o?

Mae Karpathos yn ynys gul a hir rhwng Creta a Rhodos. Mae’n ynys hardd iawn efo llawer o goed olewydd a mynyddoedd ac mae’r môr yn fendigedig.

Beth oeddech chi’n wneud bob dydd?

Roedden ni’n nofio, cerdded, darllen a bwyta llawer o fwyd blasus. Weithiau, roedden ni’n mynd i bysgota. Roedden ni’n byw o ddydd i ddydd.

Sut oedd y tywydd?

Anhygoel! Roedd hi’n heulog iawn. Hyfryd! 

Beth oeddech chi’n fwyta?

Llysiau wedi stwffio, pysgod ffres, Kolokeitho keftedakia (courgette croquette), pasta ffres, octopws, hufen iâ, cacennau cartref, bara ffres.

Fwynheuoch chi?

Do, wrth gwrs – a dw i eisiau mynd yn ôl achos dw i’n caru’r môr ac roedd y bobl mor hyfryd!

 

Geirfa
   
Gwlad Groeg Greece
naturiol natural
arweinydd leader
sesiynau sessions
fforestydd glaw rain forests
newid change
hinsawdd climate
ifanc young
cul narrow
hir long
olewydd olives
o ddydd i ddydd from day to day