Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

Siom!

Siom!

Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Cyn gwylio, dyma ychydig o help os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
siom disappointment
siomedig disappointed
edrych ymlaen at (to) look forward to
pabell tent
sach gysgu sleeping bag
gobennydd pillow
ar gyfer for

Loading the player...
Sgript
   
Aled:

Sut wyt ti?

Carwyn:

Dw i’n siomedig.

Aled:

Siomedig?

Carwyn:

Dw i'n siomedig. Dw i’n siomedig iawn.

Aled:

Pam?

Carwyn:

Wel, es i i gig nos Wener.

Aled:

Gwych.

Carwyn: Gwranda …

HWYL YN Y CAEAU

DEWCH I WERSYLLA!

DEWCH I FWYNHAU!

DEWCH I GAEL HWYL!

FFERM YR HAFOD

Nos Wener-Nos Sul, Mehefin 9-11

Cofiwch eich pabell a’ch welis.

 

Roeddwn i’n edrych ymlaen … bandiau … canu da … hwyl … ffrindiau … Ond ...

Aled: “Ond …?”
Carwyn:  O … roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen at y gig.
Aled: Wrth gwrs.
Carwyn:

Roeddwn i wedi pacio pabell ... sach gysgu ... gobennydd ... a Fflyffi.

Aled:

Ardderchog!

Carwyn:

Roeddwn i wedi prynu bin – i gario popeth i’r babell.

Aled:

Syniad da.

Carwyn:

Roeddwn i wedi prynu welis – ar gyfer y mwd.

Aled:

Gwych!

Carwyn:

Roeddwn i wedi prynu dillad newydd – dillad “gigio”.

Aled:

O ... ie, wel ... mmm ...

Carwyn:  Roeddwn i wedi prynu cot law ... ac ymbarél – ar gyfer y glaw.
Aled:

Da iawn.

Carwyn:

OND ...

Aled:

Ond?

Carwyn:

Roedd hi’n braf ... roedd hi’n heulog ... roedd hi’n boeth iawn.

Aled:

O? … Ie, wel grêt!

Carwyn:

Doeddwn i ddim wedi pacio crys T ... a siorts.

Aled: O!
Carwyn:

Doeddwn i ddim wedi pacio eli haul.

Aled: O!
Carwyn:  

Doeddwn i ddim wedi pacio fflip fflops.

Aled: O!!
Carwyn:

A …

Aled:

Ie?

Carwyn:

Problem arall.

Aled:

Beth?

Carwyn:

Doedd dim gŵyl.

Aled:

Beth? Doedd dim gŵyl?

Carwyn:

Doedd dim gŵyl. Dim bandiau … dim canu da … dim hwyl … dim ffrindiau …

Aled:

Pam?

Carwyn:

Sioe anifeiliaid oedd hi - dim gig!

Aled:

O diar!