A dyma ni – rhaglen arall o Beth wyt ti’n goginio? Heno, mae dyn o Aberystwyth yn mynd i goginio swper bendigedig ac mae dau gogydd enwog yn mynd i flasu’r bwyd.
Dyma Pierre Legrande o dŷ bwyta pum seren Chez Pierre.
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Help
Geirfa |
|
blasu | to taste |
blas | taste |
anhygoel | incredible, amazing |
beirniad | adjudicator |
cogydd | chef, cook |
olew olewydd | olive oil |
A dyma ni – rhaglen arall o Beth wyt ti’n goginio? Heno, mae dyn o Aberystwyth yn mynd i goginio swper bendigedig ac mae dau gogydd enwog yn mynd i flasu’r bwyd.
Dyma Pierre Legrande o dŷ bwyta pum seren Chez Pierre.
Dw i eisiau gweld bwyd cyffrous. Dw i eisiau bwyd gyda blas anhygoel.
A dyma’r beirniad arall - Domenico Alessandro Tomaso Constantino Giovanni Salvatorio Capricelli o dŷ bwyta pum seren Casa Domenico ...
Dw i eisiau gweld bwyd cyffrous hefyd – bwyd blasus.
A dyma’r cogydd heno …
Dyma Carwyn Claude Crawford o Aberystwyth.
Ogi … Ogi .. Ogi … Oi … Oi … Oi!
Ogi … Oi! Ogi ... Oi! Ogi ... Ogi .. Ogi ... Oi! Oi! Oi!!
Na? O … wel. Noswaith dda. Carwyn Claude Crawford ydw i a dw i’n byw yn Aberystwyth. Dw i’n hoffi byw yn Aberystwyth – mae’n wych.
Dw i’n hoff iawn o rygbi. Dw i’n hoffi rygbi yn fawr iawn. Mae rygbi’n wych … yn hwyl … yn ffantastig … yn fendigedig. Dw i wrth fy modd yn gwylio rygbi … a …
… dw i wrth fy modd yn coginio.
A beth ydych chi’n mynd i wneud i ni heno?
Bwyd o Gymru … ac o’r Eidal …
Buonissimo – Dw i’n hoffi bwyd o’r Eidal – sbageti … lasagne … tagliatelle … fetuccini … cannelloni … ravioli …
… a bwyd o Ffrainc
Ah, très bien – Coq au vin … bisque … foie gras … macarons ….
H-hm… Waw – bwyd o Gymru … ac o’r Eidal … ac o Ffrainc. Beth ydy’r bwyd, tybed?
Dewch gyda fi.
Oh, là, là!, beth sy ar y bwrdd?
Mamma mia, beth sy ar y bwrdd?
Edrychwch –
Sbageti … lasagne … fetuccini … olew olewydd … gwin … orennau … tomatos … a … caws Grana Padano …. – O’R EIDAL …
Buonissimo! Fantastico! O dw i’n hoffi bwyd o’r Eidal.
Buonissimo! Fantastico! O dw i’n hoffi bwyd o’r Eidal.
Caws … gwin coch … perlysiau – herbs de Provence … mwstard a bara – O FFRAINC.
Très bien. C’est merveilleux … Oh, là, là! … a hefyd escargot …
Beth?
Escargot … mal-wo-den.
Malwoden? Ble?
O, na … na … NA! … Dyma Mali.
Mali?
Mali?
Mali malwoden – fy anifail lwcus. Dere ’ma, Mali fach.
A dyma’r bwyd o Gymru … llaeth … iogwrt … menyn … bara brith … cennin … tatws … dŵr … halen
Bwyd hyfryd.
Bwyd blasus iawn. Blasusissimo.
Ydych chi’n barod?
Ydw, dw i’n barod.
Beth ydy’r rysáit?
Cennin Carwyn Claude.
Cennin Carwyn Claude?
Cennin Carwyn Claude.
Iawn, dechreuwch.
Menyn? Na, dw i ddim yn meddwl.
Bara brith? Na, dw i ddim yn meddwl.
Orennau? Na, dw i ddim yn meddwl.
Gwin coch? … Na, dw i ddim yn meddwl.
Mmm?
Rhaid cael …
Sbageti – o’r Eidal … a ... caws Grana Padano – o’r Eidal … a bara – o Ffrainc.
Mwstard – o Ffrainc.
Cennin – o Gymru … a halen – o Gymru.
Sbageti ….Caws Grana Padano …?
… bara a mwstard o Ffrainc …?
… a cennin …?
A halen? … Oh, là, là! Beth mae e’n mynd i wneud?
Dw i ddim yn gwybod! Mamma Mia!
Rhaid troi’r gril ymlaen.
Rhaid torri’r bara.
Rhaid rhoi mwstard ar y bara.
Rhaid rhoi caws ar y bara.
Rhaid rhoi cennin ar y bara.
Rhaid rhoi sbageti ar y bara.
Rhaid rhoi’r bara yn y gril.
A dyna ni … blasus iawn!
Bobl bach!
Mawredd mawr.
Bon appétit!