Mae hi’n saith o’r gloch ac mae’r cloc yn canu – Brrrrrrrrrrrrrinnnnnnnnnng! Mae Alex yn dihuno, mae e’n edrych ar y cloc ac mae e’n troi rownd yn y gwely. Mae e’n mynd ’nôl i gysgu.
Mae e’n cysgu … cysgu … cysgu. Yna, yn sydyn, mae e’n dihuno ac yn edrych ar y cloc eto. Chwarter wedi wyth! Bobl bach! Mawredd mawr! Nefi bliw! Rhaid codi – NAWR!
Mae e’n neidio o’r gwely ac mae e’n codi’r dillad ysgol o’r llawr – trowsus, crys, siwmper, tei ysgol, sanau drewllyd – o’r llawr. Mae e’n gwisgo’n gyflym ac yn rhedeg i lawr y grisiau. Wps, mae e’n syrthio i lawr … i lawr … i lawr. BANG!
“Awtsh!”
Yn y gegin, mae Mam a Matt, brawd bach Alex, yn bwyta brecwast – tost brown a sudd oren.
“Hwyl fawr!” mae Alex yn dweud.
“Rhaid bwyta brecwast,” mae Mam yn dweud.
“Dim amser! Dw i’n gweld Dave a Gary tu allan i’r siop,” mae Alex yn ateb ac mae e’n rhedeg allan o’r tŷ … ac mae e’n syrthio eto achos dydy’r esgidiau ddim wedi cau.
“Awtsh!” Mae e’n edrych i lawr ac mae e’n gweld mwd ar ei drowsus.
***
Tu allan i’r siop, mae Dave a Gary yn aros am Alex. Maen nhw’n cerdded i mewn i’r siop ac maen nhw’n prynu bwyd.
“Dwy bunt, os gwelwch yn dda,” mae’r ferch wrth y til yn dweud ac mae Alex yn rhoi’r arian ar y cownter. Mae’r ferch yn edrych ar y pecyn o 8 donyt a’r botel o cola. “Rhaid bwyta brecwast iawn yn y bore – dim donyts a cola.”
“Dim amser,” mae Alex yn dweud.
Yna, mae’r bechgyn yn rhedeg i’r ysgol achos maen nhw’n hwyr. Mae Alex yn rhedeg ac yn bwyta’r donyts. Mae e’n stopio i yfed y cola ac, yna, mae e’n rhedeg ac yn bwyta eto.
Maen nhw’n stopio tu allan i’r ysgol. “Dw i’n teimlo’n sick,” mae Alex yn dweud.
Mae Mr Evans maths tu allan i’r ysgol.
“Ble mae’r tei, Alex?”
“Yn fy mhoced i, Syr.”
“Gwisga’r tei.”
“Iawn, Syr.”
“Ac rydych chi’n hwyr – ETO! Ewch i weld y pennaeth – NAWR.”
“Iawn, Syr,” mae’r bechgyn yn ateb.
“Bobl bach! Mawredd mawr! Nefi bliw!” mae Alex yn dweud. “BORE LLUN – beth nesaf?!”
HelpGeirfa | |
dihuno | to wake up |
’nôl | back |
codi | to pick up, get up |
llawr | floor |
drewllyd | smelly |
yn gyflym | quickly |
dweud | to say |
amser | time |
wedi cau | closed |
prynu | to buy |
hwyr | late |
fy mhoced | my pocket |
pennaeth | head teacher |
Nefi bliw! | Good heavens! |
clock
breakfast
pack
tie