Mae Cymru’n hardd.
Mae Cymru’n gyffrous.
Mae Cymru’n hwyl!
Dw i’n hoffi mynd i Borthcawl yn yr haf achos mae traeth da yno - dw i’n mwynhau cicio pêl ar y traeth a nofio yn y môr. Fel arfer, rydyn ni’n aros mewn gwesty gwely a brecwast bach. Llynedd, es i i Borthcawl gyda Dad i Ŵyl Elvis. Dw i ddim yn hoffi Elvis, ond mae Dad yn dwlu ar Elvis. Roeddwn i’n teimlo embaras achos roedd Dad yn gwisgo dillad gwyn a wig ddu fel Elvis, ond roedd yr ŵyl yn hwyl.
Mike
Dw i’n hoffi mynd i Gaerdydd i aros gyda fy yncl ac anti. Dw i wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd achos dw i’n mwynhau siopa a dw i wrth fy modd yn mynd i’r Bae. Mae canolfan Dr Who yn ddiddorol iawn. Mae Caerdydd ar ddiwrnod gêm rygbi yn anhygoel! Fel arfer, rydyn ni’n teithio yno ar y trên.
Jess
Mae Pen Llŷn yn ffantastig achos mae traethau da iawn yno ac mae’n hardd iawn. Dw i’n mwynhau gwersylla ym Mhen Llŷn. Es i Wakestock Gŵyl y Môr yn Abersoch y llynedd gyda ffrindiau. Roedd e’n grêt. Roedd y tonfyrddio’n anhygoel ac roedd bandiau da yn canu. Roedden ni’n gwersylla. Gwych.
Tariq
Geirfa | |
gwesty | hotel |
llynedd | last year |
dwlu ar | to love |
gŵyl | festival |
anhygoel | incredible, awesome |
merlod | ponies |
cobiau | Welsh cobs |
gwersylla | camping |
tonfyrddio | wakeboarding |