Edrychwch ar y llun yma o ystafell fyw.
Llun: James Balston ©
Beth sy yn y llun? Siaradwch am hyn ac yna cliciwch yma.
Yn y llun mae llyfrau, teledu, lluniau ar y wal, cesys, cwpwrdd, cadair, bocs, cloc, blodau, fâs, ornaments, aderyn du |
Edrychwch ar y gegin yma.
Pa liw ydy’r gegin?
Beth sy yn y gegin?
Llun: James Balston ©
Mae’r gegin yn goch, llwyd / arian, du a gwyn. Yn y gegin mae cypyrddau, hob, ffan, potiau, pot coffi, tegell, offer cegin, brwshys |
Edrychwch ar y llun yma o’r ystafell ymolchi.
Pa liw ydy’r ystafell? Siaradwch am hyn ac yna cliciwch yma. |
Llun: James Balston ©
Mae’r ystafell ymolchi yn wyn, coch a melyn / aur. |
A beth sy yn y llun yma?
Disgrifiwch y llun. Siaradwch am hyn ac yna cliciwch yma.
Llun: James Balston ©
Mae gardd yn y llun. Yn yr ardd, mae cadair a bwrdd, clustog, ffens, ysgol, blodau, can dŵr, planhigion. |
Ble mae’r cartref yma, tybed?
Mae’r cartref yma yn Llundain. |
Mae’r cartref yma’n anhygoel! Mae’r cartref yma’n ddiddorol iawn! Mae’r cartref yma’n ffantastig. Pam?
Achos unwaith, toiledau oedd y cartref yma. Ie – toiledau.
Os ydych chi eisiau gweld mwy o luniau, ewch i:
http://www.telegraph.co.uk/finance/property/9462068/From-public-loo-to-private-home-in-pictures.html.
Geiriau | |
fâs | vase |
cwpwrdd, cypyrddau | cupboard, cupboards |
tegell | kettle |
offer cegin | kitchen utensils |
gardd | garden |
clustog | cushion |
ysgol | ladder |
planhigion | plants |
unwaith | once |