Haia!
Dw i’n mynd i chwarae pêl-droed mewn swigen (bubble ball yn Saesneg) y prynhawn yma. Gêm ydy hi ac mae’n wych. Mae’n gyffrous iawn ac mae’n llawer o hwyl.
Mae’r gêm fel pêl-droed ond rhaid chwarae mewn pêl zorbio fawr. (Edrycha ar y llun!). Rhaid gwisgo crys T a siorts achos mae hi’n boeth yn y bêl zorbio. Rhaid gwisgo esgidiau pêl-droed i chwarae hefyd.
Yna, rhaid rhedeg, cicio, pasio’r bêl a sgorio. Mae’n anodd mewn pêl zorbio, ond mae’n hwyl – mae’n llawer o hwyl!
Chwaraeais i mewn gêm ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd hi’n anhygoel. Roedd ein tîm ni’n gwisgo crysau T coch, siorts gwyn a siorts gwyrdd – lliwiau Cymru. Enillon ni o 12 gôl i 0 - roedd y tîm arall yn ofnadwy!
Beth am ofyn i Mr Smith, addysg gorfforol, brynu peli zorbio i’r ysgol?
Wela i di yfory.
Joe
Geirfa | |
swigen | bubble |
fel | like, similar to |
lluniau | pictures |
anodd | difficult |
diwethaf | last |
arall | other |
addysg gorfforol | PE |
prynu | to buy |