| Geirfa | |||
| ymlacio | to relax | ar y we | on the internet |
| os | if | byth | never |
| pawb | everyone | Mae’n gas gyda fi ... | I hate ... (South Wales) |
| yn brysur | busy | Mae’n gas gen i ... | I hate ... (North Wales) |
| tŷ bwyta | restaurant | cadw’n heini | to keep fit |
| weithiau | sometimes | yn gyflym | quickly |
| Person | Sgript |
| Cyflwynydd: | Stopiwch ... |
| Cyflwynydd: | A – dyna ni! |
| Cyflwynydd: | Iawn – dw i yn Llanelli heddiw ... achos dw i eisiau gofyn i bobl:
Sut ydych chi’n ymlacio? |
| Cyflwynydd: | Esgusodwch fi ...
Iawn ... |
| Cyflwynydd: | Esgusodwch fi ...
Iawn ... |
| Cyflwynydd: | Esgusodwch fi ...
Iawn ... |
| Cyflwynydd: | Bobl bach, mae pawb yn brysur. |
| Cyflwynydd: | Esgusodwch fi. Ga i ofyn cwestiynau i chi ... ? ...
Ga i ofyn cwestiynau i chi ... ? Ga i ofyn ... |
| Dyn: | Helo. |
| Cyflwynydd: | Ga i ofyn cwestiynau i chi? |
| Dyn: | O, iawn. Cewch. |
| Cyflwynydd: | Diolch. Sut ydych chi’n ymlacio? |
| Dyn: | Pardwn? |
| Cyflwynydd: | Sut ydych chi’n ymlacio? |
| Dyn: | Wel .... nawr ‘te ... Sut ydw i’n ymlacio? Wel ... Dw i’n mynd allan gyda ffrindiau ... |
| Cyflwynydd: | Mynd allan gyda ffrindiau ... Ble? |
| Dyn: | Wel ... i’r tŷ bwyta ... neu dw i’n mynd i dŷ ffrind – i siarad ... neu i chwarae gêm cyfrifiadur. |
| Cyflwynydd: | I dŷ bwyta ... i dŷ ffrind. Diolch yn fawr. Iawn ... pum cwestiwn i chi. I ymlacio ...:
Ydych chi’n gwylio’r teledu? |
| Dyn: | Ydw. Weithiau. |
| Cyflwynydd: | Ydych chi’n gwrando ar gerddoriaeth? |
| Dyn: | Ydw. Weithiau. |
| Cyflwynydd: | Ydych chi’n mynd ar y we? |
| Dyn: | Ydw. Weithiau. |
| Cyflwynydd: | Ydych chi’n siopa? |
| Dyn: | Nac ydw - byth ... Byth! ... BYTH!! Mae’n gas gyda fi siopa. Dydy siopa ddim yn helpu fi i ymlacio! |
| Cyflwynydd: | Ydych chi’n gwneud chwaraeon? |
| Dyn: | Ydw, achos mae’n bwysig cadw’n heini. |
| Cyflwynydd: | Ydych chi’n dawnsio i ymlacio? |
| Dyn: | Nac ydw. |
| Cyflwynydd: | Iawn – felly ... i ymlacio ... rydych chi’n:
|
| Dyn: | Weithiau |
| Cyflwynydd: |
|
| Cyflwynydd: | Dyna ni! |
| Dyn: | Diolch yn fawr. Diolch. Hwyl fawr. |
| Cyflwynydd: | Esgusodwch fi. |
| Merch: | Helo. |
| Cyflwynydd: | Ga i ofyn cwestiwn i chi? |
| Merch: | Cewch – yn gyflym. |
| Cyflwynydd: | Iawn – yn gyflym. ... Sut ydych chi’n ymlacio? |
| Merch: | Dw i’n rhedeg – hwyl fawr! |
| Cyflwynydd: | O, iawn – hwyl fawr! |