Enwch 5 rhaglen realiti.
Yna, meddyliwch ...
Beth ydy rhaglen realiti?Rhaglen realiti ydy rhaglen gyda phobl “real” – ddim actorion.
Does dim sgript.
Beth ydych chi’n feddwl o raglenni realiti? Dyma farn rhai pobl ifanc.
 
                        Mae rhaglenni realiti’n cŵl. Fy hoff raglen realiti ydy The Island, gyda Bear Grylls. Mae’n gyffrous ac mae’n wahanol iawn. Dw i wrth fy modd yn gwylio’r bobl yn byw ar yr ynys.
 
                        Dw i’n anghytuno. Dw i’n meddwl bod y rhaglen yn wirion. Dw i ddim eisiau gweld pobl yn chwilio am fwyd a dŵr ac yn trio byw ar ynys. Mae’n well gen i The X Factor achos dw i’n mwynhau cerddoriaeth. Dw i eisiau mynd ar The X Factor – neu The Voice, neu Britain’s Got Talent.
 
                        Wyt ti’n gallu canu?
 
                        Wel ... mmm ... dw i ddim yn ddrwg.
 
                        O diar! Embaras!
 
                        Mm – Britain’s Got Talent? Oes ci gyda ti? Ydy e’n gallu perfformio? Ydy e’n gallu canu, dawnsio neu hopian?
 
                        Nac oes ... ond dw i’n mynd i ganu ar y rhaglen.
 
                        Pob lwc! Dw i’n mwynhau rhaglenni cerddoriaeth hefyd ond dw i ddim yn mwynhau’r storïau trist ar raglenni realiti, “Dw i’n 18 oed. Dw i’n byw mewn fflat fach iawn iawn mewn dinas fawr iawn. Dw i’n gweithio’n galed iawn wrth y til mewn siop drwy’r dydd ddydd Sadwrn achos rhaid i fi gael arian - bla bla bla.” Dw i ddim eisiau clywed y stori yma. Dw i eisiau clywed y gerddoriaeth!
 
                        Ond mae storïau trist yn bwysig mewn rhaglenni realiti achos rydyn ni’n teimlo dros y bobl.
 
                        Beth ydych chi’n feddwl o raglenni coginio fel Super Chef neu The Great British Bakeoff? Dw i’n mwynhau’r rhaglenni yma’n fawr achos dw i’n dysgu sgiliau coginio.
 
                        A fi. Maen nhw’n wych.
Dw i wrth fy modd yn ... – I love ...
Mae’n well gen i ... – I prefer ...
Mae’n well gyda fi ... – I prefer ...
| Geirfa | |
| ynys | island | 
| gwirion | silly | 
| chwilio am | to search for | 
| gallu | to be able to, can | 
| hopian | to hop | 
| coes | leg | 
| pwysig | important | 
| teimlo dros | to feel for | 
| dim byd | nothing | 
| digwydd | to happen | 
to try
embarrassing, embarrassment