Beth ydych chi’n feddwl o ...?

Kung fu

Kung fu

Mae Ceri Williams yn mynd i ddosbarth arbennig. Darllenwch y sgwrs yma.

Ciwb:

Rwyt ti’n mynd i ddosbarth arbennig bob wythnos. Pa ddosbarth?

Ceri:

Dosbarth kung fu.

Ciwb:

Beth wyt ti’n wneud yn y dosbarth?

Ceri:

Dw i’n dysgu sgiliau ymladd a dysgu sgiliau eraill.

Ciwb:

O? Pa sgiliau?

Ceri:

Dw i’n dysgu bod yn bositif. Dw i’n dysgu sut i fihafio’n dda. Dw i’n dysgu sut i helpu pobl eraill. Dw i’n dysgu sut i weithio’n galed – ac mae hyn yn help yn yr ysgol. Dw i’n dysgu sut i fyw’n iach a sut i gadw’n heini.

Ciwb:

Sut mae kung fu yn helpu i gadw’n heini?

Ceri:

Wel, dw i’n dysgu sgiliau ymladd ... Dw i’n dysgu sut i bwnsho, bwrw neu daro, cicio a sut i wneud symudiadau arbennig. Mae llawer o’r symudiadau fel symudiadau anifeiliaid.

Ciwb:

Beth wyt ti’n wisgo i wneud kung fu?

Ceri:

Dw i’n gwisgo dillad coch ond mae rhai pobl yn gwisgo lliwiau eraill fel glas.

Ciwb:

Wyt ti’n mwynhau?

Ceri:

Ydw. Dw i wrth fy modd yn gwneud kung fu achos mae’n ffordd dda o gadw’n heini ond hefyd mae kung fu yn hwyl – rydyn ni’n dysgu dawns y ddraig cyn y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd bob blwyddyn ac rydyn ni’n perfformio’r ddawns yn y dre a hefyd dw i’n gwneud ffrindiau newydd yn y dosbarthiadau kung fu hefyd.

Ciwb:

Ble wyt ti’n dysgu kung fu?

Ceri:

Yn y Ganolfan Hamdden.

Ciwb:

Oes llawer o bobl ifanc yn mynd?

Ceri:

Mae tua un deg pump o bobl ifanc yn mynd bob wythnos. Mae pawb yn cael amser da ac mae pawb yn dysgu sgiliau pwysig.

Ciwb:

Ydy hi’n bosib dysgu Kung fu yn yr ysgol?

Ceri:

Nac ydy ond hoffwn i ddysgu kung fu yn yr ysgol achos mae kung fu yn well na chwaraeon ysgol. Mae’n well gen i kung fu na chwarae pêl-droed neu nofio. Hoffwn i gael gwersi yn yr ysgol. Rhaid i ysgolion Cymru ddechrau dysgu kung fu.

Ciwb:

Wel, Ceri, diolch yn fawr am siarad â fi.

Ceri:

Croeso.

Geiriau diddorol:
symud (to move) symudiad (movement)     symudiadau (movements)
Pwysig! Pwysig! Pwysig!

yn well na – better than

Mae’n well gen i ... na ... – I prefer ... to ...

Mae’n well gyda fi ... na ... – I prefer ... to ...

Help
Geirfa

ymladd

to fight

pwysig

important

bihafio

to behave

yn galed

hard

cadw’n heini to keep fit

bwrw

to hit

taro

to hit

y ddraig

the dragon

dathlu to celebrate

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

positive

skills

to punch

to kick