(Mae Marc yn eistedd o flaen y cyfrifiadur. Mae e ar y we. Mae Dad yn dod i mewn.)
Dad, mae’r Nadolig yn dod ...
Mae’r Nadolig yn dod ac un ffordd o ddathlu ydy rhoi anrhegion.
Darllenwch y ddeialog yma mewn parau.
(Mae Marc yn eistedd o flaen y cyfrifiadur. Mae e ar y we. Mae Dad yn dod i mewn.)
Dad, mae’r Nadolig yn dod ...
Ydy, Marc ...?
Ga i feic newydd i’r Nadolig os gwelwch yn dda?
Beic newydd?!?!?!. Pam wyt ti eisiau beic newydd?
Achos mae’r hen un yn hen ffasiwn. Edrycha – dw i’n hoffi’r beic yma.
(Mae Marc yn pwyntio at feic ar y we.)
Bobl bach! Pum can punt!!!
Ond edrycha, Dad, mae e’n hyfryd. Mae’r lliwiau – coch a du – yn berffaith. Dw i wrth fy modd gyda’r beic yma ac mae “Dual Pivot Calliper Brakes” ... ac un deg chwech gêr ... ac mae ...
Pam wyt ti eisiau un deg chwech gêr? Mawredd mawr!
Ond, Dad ...
Na, Marc. Mae pum can punt yn llawer o arian. Mae e’n llawer iawn o arian.
Ond ...
Rwyt ti’n cael pedwar deg punt o arian poced bob mis. Sut wyt ti’n gwario dy arian poced?
Wel dw i’n prynu dillad ...
Gormod o ddillad!
Dad! ... Dw i’n mynd ar y bws i’r dref gyda fy ffrindiau bob prynhawn Sadwrn.
A beth ydych chi’n wneud yn y dref ar brynhawn Sadwrn?
Rydyn ni’n prynu brechdanau i ginio ... rydyn ni’n siopa ...
Siopa “am ddillad” – gormod o ddillad!
Rydyn ni’n mynd i’r sinema ... neu i fowlio deg ...
Ac yna, rydych chi’n mynd allan am bizza.
Ydyn. O, Dad plîs, ga i’r beic yma i’r Nadolig.
Iawn ... Cei ...
O, gwych ...
Ond rhaid i ti feddwl sut rwyt ti’n mynd i dalu am y beic!
O!!!
Geirfa | |
hen-ffasiwn | old-fashioned |
perffaith | perfect |
y cant | per cent |
i ffwrdd | off |
talu | to pay |
amdano fe | for it |
arian poced | pocket money |
bob mis | every month |
gwario | to spend |
prynu | to buy |
gormod | too many |