Dathlu

Dathlu ar draws y byd (1)

Mae llawer o bobl yn dathlu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

novdec-images.png

Mae pobl yn dathlu ar draws y byd ac mae rhai dathliadau’n wahanol iawn!

3 Tachwedd

Dydd Brechdanau (America)

Beth am fwyta brechdan flasus ar Dachwedd 3? Mae llawer o bobl yn America’n mwynhau brechdanau blasus heddiw!

7-8 Tachwedd

Punkin Chunkin (America)

Ydych chi’n gallu saethu pwmpen yn bell? Wel, yn Dover, America, mae pencampwriaeth Punkin Chunkin y byd ym mis Tachwedd. Mae pobl yn defnyddio catapyltiau, canonau a gynnau mawr i saethu pwmpenni yn bell. Bobl bach!

29-30 Tachwedd

Bwydo’r mwncïod (Lop Buri, Gwlad Thai)

Mae pobl yn dathlu yn Lop Buri, Gwlad Thai, ar ddiwedd Tachwedd. Maen nhw’n rhoi bwyd i’r mwncïod ac mae tua 10,000 o bobl yn dod i wylio. Pam? Achos mae pobl yn meddwl bod rhoi bwyd i’r mwncïod yn lwcus – ac maen nhw’n mwynhau gweld y mwncïod yn bwyta ac yn dawnsio ar y byrddau.

3 Rhagfyr

Dydd gwneud anrhegion (Mewn sawl gwlad)

Mae’r Nadolig yn dod. Ydych chi wedi prynu’r cardiau a’r anrhegion? Na? Wel beth am wneud cardiau ac anrhegion heddiw achos heddiw ydy Dydd gwneud anrhegion?

images-rel.jpg

Help
Geirfa
 gallu  can, to be able to
 saethu  to shoot
 pwmpen  pumpkin
 yn bell  far
 pencampwriaeth  championship
 y byd  the world
 gwylio  to watch
 anrhegion  presents

Beth ydy’r geiriau Saesneg?
  • catapyltiau
  • canonau
  • gynnau
  • cardiau
Cwestiwn

Beth ydy byrddau?

Meddyliwch am ‘dawnsio ar y byrddau’.

Ydy’r gair byrddau yn edrych fel gair arall?

Beth ydy’r gair?

Punkin' Chunkin' gan Chris Connelly; fe'i defnyddir o dan CC BY