Dathlu

Gwisgo coed

dydd-gwisgo-poster.jpg

Beth ydy’r stori tu ôl i’r Dydd Gwisgo Coed:

tree-dres.jpg

Amser maith yn ôl, yn 1730, yn yr Himalayas, roedd y Maharaja o Jodhpur eisiau adeiladu palas. “Ewch i bentref Khejarli,” dwedodd e wrth ei ddynion “achos mae coed da iawn yno. Torrwch y coed i lawr.”

Aeth y dynion i bentref Khejarli i dorri’r coed i lawr.

Roedd un ferch yn y pentref, Amrita Devi, yn drist iawn. “Mae hyn yn ofnadwy,” dwedodd hi. “Rhaid i ni wneud rhywbeth. Rhaid i ni ofalu am y coed yma.”

Aeth hi at un o’r coed a rhoi ei breichiau hi o gwmpas coeden. Cofleidiodd hi’r goeden achos roedd hi eisiau stopio’r dynion. Stopiodd y dynion ddim. Torron nhw’r goeden i lawr a lladdon nhw Amrita.

Roedd pobl y pentref yn drist. “Dewch!” dwedodd un o’r bobl. “Rhaid i ni wneud rhywbeth. Rhaid i ni ofalu am y coed yma. Rhaid i ni stopio’r dynion.”

Aethon nhw at y coed a rhoi eu breichiau o gwmpas y coed. Cofleidion nhw’r coed achos roedden nhw eisiau stopio’r dynion. Ond stopiodd y dynion ddim. Torron nhw’r coed i lawr – a lladdon nhw’r bobl. Lladdon nhw 363 o bobl.

Pan glywodd y maharajah, roedd e’n drist. Daeth e i’r pentref. “Stopiwch torri’r coed,” dwedodd e wrth y dynion. “Peidiwch torri’r coed yma byth eto.”

Heddiw, does neb yn cael torri’r coed i lawr yn yr ardal yma.

Heddiw ...

Mae pobl eisiau torri’r coed i lawr mewn rhannau gwahanol o’r byd. Ond mae rhai pobl yn protestio ac yn cofleidio’r coed – fel Amrita Devi a phobl y pentref.

Does dim rhaid i chi gofleidio’r coed ar 5-6 Rhagfyr ond mae’n bwysig meddwl am y coed yn yr ardal!

defor.jpg

Help
Geirfa 
pwysig important
addurno to decorate
tynnu to take, remove
aer air
coedwigoedd forests
amser maith yn ôl a long time ago
adeiladu to build
o gwmpas around
cofleidio to hug
lladd to kill
pentref village
byth eto (n)ever again
neb no-one
cael to be allowed to
ardal area
rhannau parts
byd world
ardal area

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?
  • ribbons
  • shapes
  • lights
  • colours
  • stories
  • carbon dioxide
  • palace