Helo a chroeso i raglen arall o Dathlu ...
Heddiw, dw i yn Llanelli a dw i eisiau gwybod beth mae pobl Llanelli yn dathlu ym mis Tachwedd a Rhagfyr.
Esgusodwch fi. Ga i siarad â chi?
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
rhaglen | programme |
Noson Tân Gwyllt | Bonfire Night |
fel arfer | usually |
cyn | before |
cwrdd | to meet |
cŵn poeth | hot dogs |
felly | so, therefore |
lliwgar | colourful |
cawl | soup |
swêds | swedes / turnips |
maip | swedes / turnips |
cerddoriaeth | music |
twmpath dawns | folk dancing evening |
pib, pibau | pipe, pipes |
sbeislyd | spicy |
diwedd | end |
Helo a chroeso i raglen arall o Dathlu ...
Heddiw, dw i yn Llanelli a dw i eisiau gwybod beth mae pobl Llanelli yn dathlu ym mis Tachwedd a Rhagfyr.
Esgusodwch fi. Ga i siarad â chi?
Cewch.
Beth ydy’ch enw chi?
Rhian Williams ydw i.
Ble ydych chi’n byw, Rhian?
Dw i’n byw yn Llanelli.
Ydych chi’n dathlu ym mis Tachwedd?
Ydw. Dw i’n dathlu Noson Tân Gwyllt ym mis Tachwedd fel arfer.
Noson Tân Gwyllt ... Ydych chi’n dathlu ar Dachwedd pump?
Nac ydw, dw i’n dathlu ar y nos Sadwrn cyn Tachwedd pump.
Beth ydych chi’n wneud?
Blasus - dw i wrth fy modd yn bwyta cŵn poeth - dw i’n hoffi’r sosej ... a’r winwns ... a’r sôs coch mewn rhôl wen flasus ... mmm!
O, da iawn ... ac yna rydyn ni’n mynd i’r parc i weld y tân gwyllt.
Oes llawer o bobl yn y parc fel arfer?
Ffair! Gwych.
Mae’n hwyl.
Felly, rydych chi’n mwynhau dathlu Noson Tân Gwyllt.
Ydw, dw i wrth fy modd.
Diolch yn fawr.
Esgusodwch fi.
Fi?
Ie – chi... Ga i siarad â chi?
Cewch.
Beth ydy’ch enw chi?
Andrew.
Ble ydych chi’n byw, Andrew?
Dw i’n byw yng Nghaerdydd ond dw i’n dod o’r Alban.
O’r Alban?
O’r Alban – o Glasgow.
O, diddorol. Ydych chi’n dathlu ym mis Tachwedd?
Ydw – wrth gwrs.
Wel ... beth ydych chi’n dathlu?
Dw i’n dathlu Gŵyl Andreas – St Andrew’s Day.
O! ... mmm ... pryd mae Gŵyl Andreas?
Tachwedd tri deg.
Tachwedd tri deg? Beth ydych chi’n wneud ar Ŵyl Andreas?
Wel, dw i’n gwisgo cilt ...
Waw!
... dw i’n bwyta bwyd o’r Alban ...
Pa fath o fwyd?
Haggis ... cranachan ... shortbread ... Selkirk bannock ... cawl cock-a-leekie ...
Cawl cock-a-leekie?
Ie – cawl blasus iawn ... a dw i’n bwyta neeps a tatties
Neeps a tatties? Beth ydy neeps a tatties?
Dw i’n mynd i ceilidh.
Ceilidh?
Dawnsio o’r Alban – fel twmpath dawns yng Nghymru. Mae’n hwyl.
O, ga i drio?
Wrth gwrs ...
Ie ... wel ...
Felly, rydych chi’n mwynhau dathlu Gŵyl Andreas?
Ydw, yn fawr iawn – mae’n hwyl.
Rhaid i fi fynd, mae’n ddrwg gen i.
Esgusodwch fi ... ydych chi’n dathlu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr ...?