Dathlu

Pen-blwydd hapus

Sam Sam

Mae pen-blwydd Ben, fy ffrind i, ym mis Rhagfyr a dw i eisiau trefnu syrpreis. Help!

Olga Olga

Yn Rwsia, rydyn ni’n bwyta pei pen-blwydd – dim cacen pen-blwydd. Ydy Ben yn hoffi peis?

Sam Sam

Dw i ddim yn siŵr.

Mia Mia

Yn Awstralia, rydyn ni’n bwyta fairy bread ar ein pen-blwydd – bara menyn gyda channoedd a miloedd ar y bara.

Sam Sam

Fairy bread!?!?! Na, dydy Ben ddim yn hoffi fairy bread!

Dei Dei

Yng Nghanada, rydyn ni’n rhoi menyn ar drwyn person ar ei ben-blwydd. Syrpreis!

Sam Sam

Gwych! Dw i’n hoffi’r syniad yna – rhoi menyn ar drwyn Ben!

Alberto Alberto

Yn Nenmarc, rydyn ni’n hongian baner tu allan i dŷ person ar ei ben-blwydd.

Lin Lin

Yn China, rydyn ni’n bwyta nwdls i ginio ar ein pen-blwydd.

Samira Samira

Yn India, mae plentyn yn gwisgo dillad lliwgar i’r ysgol ar ei ben-blwydd ac mae’n rhoi siocledi i ffrindiau.

Sam Sam

Dw i’n hoffi’r syniad yna – rhoi siocledi i ffrindiau – achos dw i’n hoffi siocledi.

Daniela Daniela

Yn yr Eidal rydyn ni’n tynnu clustiau person ar ei ben-blwydd.

Leon Leon

Yn Jamaica, rydyn ni’n taflu blawd dros berson ar ei ben-blwydd.

Sam Sam

Gwych – rhoi menyn ar y trwyn ... tynnu clustiau ... taflu blawd ...! Diolch yn fawr. Mae Ben yn mynd i gael syrpreis mawr ar ei ben-blwydd!

Raoul Raoul

Dydy plant yn yr Almaen ddim yn cael gwaith cartref ar eu pen-blwydd.

Sam Sam

Gwych!

Kim Kim

Yn Fietnam, mae pawb yn dathlu pen-blwydd ar Ddydd Tet – diwrnod cyntaf y flwyddyn. Beth am aros tan fis Ionawr i ddathlu?

Sam Sam

Na, dw i ddim yn meddwl. Rydyn ni eisiau dathlu ym mis Rhagfyr.

Pwysig! Pwysig! Pwysig!

fy = my                 fy ffrind (i)

ein = our               ein pen-blwydd (ni)

ei = his                  ei ben-blwydd (e/o)

eu = their              eu pen-blwydd (nhw)

Help
Geirfa 
trefnu to organize
cannoedd a miloedd hundreds and thousands
trwyn nose
baner flag
tynnu to pull
clustiau ears
taflu to throw
blawd flour
diwrnod day
cyntaf first
blwyddyn year