Dathlu

Dathlu ar draws y byd (2)

Mae llawer o bobl yn dathlu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

novdec-images.png (1)

Mae pobl yn dathlu ar draws y byd ac mae rhai dathliadau’n wahanol iawn! 

6 Tachwedd

Dydd Nachos (America)

Ydych chi’n hoffi nachosdarnau o tortilla gyda sbeis neu gaws – blasus iawn!

Sut i ddathlu? Bwytwch nachos, trïwch ryseitiau newydd a mwynhewch!

12-22 Tachwedd

Gŵyl y môr-ladron (Ynysoedd y Cayman)

Rhedwch! Mae’r môr-ladron yn dod ar long fawr! Rhedwch yn gyflym ... ond wedyn, mwynhewch y gerddoriaeth, y dawnsio, y gemau, y bwyd a’r ddiod, y carnifal, y chwaraeon a’r tân gwyllt. Hwyl! Hwyl! Hwyl!

19-25 Tachwedd

Ffair Pushkar (India)

Pum deg mil (50,000) o gamelod a dau gan mil (200,000) o bobl yn mwynhau – dyna Ffair Pushkar. Yma, mae pobl yn prynu camelod ac yn mwynhau’r ffair, y chwaraeon a’r cystadlaethau, e.e. cystadleuaeth y mwstash gorau, cystadleuaeth gwneud twrban. Hefyd – reidiau camelod a chamelod yn rasio ac yn dawnsio.

7 Rhagfyr

Dydd Ysgrifennu Llythyrau (mewn sawl gwlad)

Beth am anfon llythyr at ffrind neu un o’r teulu (neu rywun dydych chi ddim wedi cyfarfod) yn lle anfon neges destun neu e-bost? Heddiw ydy Dydd Ysgrifennu Llythyrau, felly dechreuwch ...

Help
Geirfa
darn, darnau piece, pieces
rysáit, ryseitiau recipe, recipes
môr-ladron pirates
ynysoedd islands
llong ship
prynu to buy
cystadleuaeth competition
cystadlaethau competitions
llythyr, llythyrau letter, letters
sawl several
rhywun someone
wedi cyfarfod have met
yn lle instead of
anfon to send
neges destun text (message)

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?
  • spice
  • moustache
  • turban

images-rel.jpg (1)