20 Tachwedd, 2015
Dim newyddion heddiw – ysgol ... gwaith cartref ... gwylio ffilm gyda’r teulu.
Siarad â Matt, Gav a Lois am yfory – dw i’n edrych ymlaen.
Wedi blino – nos da.
21 Hydref, 2015
Roedd heddiw’n wych!!!!
Es i i sglefrio gyda Gav, Matt a Lois. Mae Gŵyl y Gaeaf – y Winter Wonderland – yng Nghaerdydd eto. Cyffrous! Roedd y sglefrio’n hwyl achos roedd Gav yn cwympo’n aml!
Wedyn, bwytais i sosejis o’r Almaen (blasus iawn!), a crêpes o Ffrainc gyda past siocled (bendigedig!!). Bwytodd Matt 8 crêpe!!!!
Aethon ni i’r farchnad Nadolig. Roedd crefftau, bwyd a dillad yn y farchnad ond roedd y bechgyn yn ddiflas iawn yn siopa a dwedodd Matt, “Kate, dw i eisiau mynd i’r ffair.” Felly, aethon ni i’r ffair. Roedd y reids yn anhygoel!
Mae Gŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd tan fis Ionawr felly rydyn ni’n mynd eto. Dw i’n edrych ymlaen.
Nos da!
Geirfa | |
sglefrio | to skate |
cwympo = syrthio | to fall |
doniol | funny |
blasus | delicious |
anhygoel | incredible, awesome |
tan | until |
felly | so, therefore |
edrych ymlaen | to look forward |