Helo, Carwyn. Beth wyt ti’n wneud?
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
ymarfer | to train |
Nos Galan | New Year’s Eve |
pa mor hir? | how long? |
miloedd | thousands |
o bob rhan o Brydain | from all parts of Britain |
rhywun | someone |
bedd | grave |
wedi marw | dead, died |
ar ôl | after |
fel hyn? | like this? |
arhosa funud | wait a minute |
os | if |
Helo, Carwyn. Beth wyt ti’n wneud?
Dw i’n ymarfer.
Ymarfer?
Ymarfer.
Pam wyt ti’n ymarfer?
Dw i’n ymarfer ar gyfer y ras.
Pa ras?
Ras Nos Galan.
Pa ras Nos Galan?
Ras Guto Nyth Brân.
O! Ble mae’r ras?
Yn Aberpennar.
Aberpennar?
Mountain Ash, tref ger Aberdâr, yn Ne Cymru.
O, dw i’n gweld ... O, dw i’n cofio nawr – ras Guto Nyth Brân.
Pa mor hir ydy’r ras?
5 cilomedr.
Wyt ti’n gallu rhedeg 5 cilomedr?
Esgusodwch fi!!!!! Ydw i’n gallu rhedeg 5 cilomedr – wrth gwrs.
O, wel, pob lwc.
Oes llawer o bobl yn rasio yn y Ras Nos Galan?
Oes – mae miloedd o bobl yn dod i rasio – o bob rhan o Brydain.
Ar ddechrau’r ras, mae pawb yn mynd i’r eglwys.
I’r eglwys?!?!? Bobl bach!
Ac yna, mae rhywun yn rhoi blodau ar fedd Guto Nyth Brân.
Rhoi blodau ar fedd Guto Nyth Brân?!?!?
Ie, bedd Guto Nyth Brân.
Ydy Guto Nyth Brân wedi marw ’te?
Ydy, wrth gwrs.
Sut?
Wel, roedd Guto Nyth Brân yn rhedeg ... Roedd e’n rhedeg yn gyflym iawn. Roedd e’n wych. Unwaith, roedd e’n rhedeg mewn ras ... ac enillodd e. Roedd cariad Guto’n hapus iawn. Rhoiodd hi slap iddo fe ...
Slap???
Ie, slap i ddweud, “Da iawn ti!”.
Fel hyn? “Da iawn!”
Awtsh!!!!!
Ac yna bu farw Guto. Mmm ... Arhosa funud ...
Sofia, wyt ti’n dod i’r ras?
Ydw, wrth gwrs.
Dw i’n mynd i roi slap i ti i ddweud, “Da iawn, Carwyn – Ardderchog!”
Iawn ... wel ... dyna ni ... os wyt ti’n dod i’r ras, dw i ddim yn mynd i rasio ... Hwyl fawr!
Ond ...?