Dathlu

Dim dathlu heno!

Y Fari Lwyd

fari-lwyd.jpg

Yng Nghymru, dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae rhai pobl yn mynd o dŷ i dŷ yn cario’r Fari Lwyd – pen ceffyl (cardbord fel arfer!) gyda blanced wen a rhubanau ar y pen. Mae dyn yn cuddio o dan y flanced.

Maen nhw’n stopio tu allan i dŷ. Maen nhw’n canu pennill. Mae’r bobl yn y tŷ’n canu pennill. Mae criw y Fari Lwyd yn canu pennill arall. Mae’r bobl yn y tŷ’n canu pennill arall - ac eto - ac eto - ac yna mae criw’r Fari Lwyd yn mynd i mewn i’r tŷ ac mae parti mawr.

Yna, mae criw’r Fari Lwyd yn mynd i dŷ arall i ganu eto ac i gael parti arall.

Mae’n hwyl!

Help
Geirfa 
blanced wen white blanket
cuddio to hide
pennill verse
criw crew

Dim dathlu heno!

 

Rwyt ti’n edrych ...

        mor dawel

        mor ddi-liw                                                                        

        mor drist

        mor llonydd

          yn pwyso ar wal y garej

            tu ôl i’r bocsys a’r beiciau

             a gwe pry cop rhwng dy glustiau.

 

Dim ffrindiau cyffrous!

Dim bwyd blasus!

Dim rhubanau lliwgar, llawen

   ar dy gefn gwyn.

Dim hwyl!

 

Ond paid â phoeni ...

Cyn bo hir, byddi di eto

        mor swnllyd

        mor lliwgar

        mor hapus  

        mor heini                                                          

        yn cerdded o dŷ o dŷ

          o flaen dy ffrindiau llawen

            yn DATHLU!

 

Non ap Emlyn

Help
Geirfa 
mor so
di-liw colourless
pwyso to lean
gwe pry cop cobweb
clustiau ears
llawen jolly, merry
cefn back
poeni to worry
cyn bo hir before long
o flaen in front of