Helo, bawb.
Mae llawer o bobl yn dathlu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr ac rydyn ni eisiau dathlu hefyd.
Mae grŵp o Flwyddyn 8 yn trefnu parti diwedd tymor ond rydyn ni eisiau trefnu parti gwahanol. Ydych chi’n gallu helpu?
Rydyn ni eisiau syniadau am:
- pryd bydd y parti
- ble bydd y parti
- bwyd parti
- dillad parti
- addurniadau parti
- beth i wneud yn y parti.
Rydyn ni wedi bod yn chwilio ar y we ac rydyn ni wedi gweld rhai syniadau “gwahanol”, e.e.
- Bwyd gwahanol: Yn Japan, mae llawer o bobl yn bwyta KFC dros y Nadolig; yn Ne Affrica, mae pobl yn bwyta lindys wedi ffrio; yn Sweden, maen nhw’n bwyta pwdin reis. Unrhyw syniadau?
- Dillad gwahanol: Mae llawer o bobl yn gwisgo i fyny fel Siôn Corn, wrth gwrs ond yn Awstria, mae rhai pobl yn gwisgo i fyny fel Krampus – bwystfil ofnadwy – ym mis Rhagfyr. Unrhyw syniadau?
- Addurniadau gwahanol: Yn Wcráin, mae pobl yn rhoi gwe corryn / pry cop dros y goeden Nadolig ac maen nhw’n rhoi addurniadau gwe o gwmpas y tŷ. Unrhyw syniadau?
- Beth i wneud yn y parti: Yn Sweden, mae llawer o bobl yn gwylio cartwnau Donald Duck dros y Nadolig ac yn Estonia mae pobl yn mynd i’r sawna.
Beth ydych chi’n feddwl? Oes syniadau gyda chi? Rydyn ni eisiau parti cyffrous, “gwahanol”.
Ysgrifennwch aton ni os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr.
Lyn