Mae hi’n bedwar o’r gloch y prynhawn ar Ragfyr 31 yng Nghymru ac mae Elin yn cael y neges yma oddi wrth ffrind yn Awstralia.
Helo, bawb. Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Cawson ni amser gwych yn dathlu’r Flwyddyn Newydd. Roedd y tân gwyllt dros Bont Harbwr Sydney yn anhygoel! Yna, aethon ni i barti gyda ffrindiau. Roedd e’n grêt.
Beth fyddwch chi’n wneud? Sut byddwch chi’n dathlu?
Dw i wedi blino nawr, felly dw i’n mynd i’r gwely.
Cariad
Craig
Mae pobl yn y dwyrain yn dathlu’r Flwyddyn Newydd cyn ni. Ewch i Dasg 1 i gael mwy o wybodaeth.
Geirfa | |
tân gwyllt | fireworks |
dwyrain | east |
cyntaf | first |
olaf | last |