30 Mai, 1980
Dw i’n teimlo’n ddiflas iawn, iawn. Dw i mor siomedig!
Dw i’n hoffi gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu ond does dim sianel Gymraeg yng Nghymru. Mae rhai rhaglenni ar BBC 1 ac mae rhai rhaglenni ar ITV. Fel arfer, mae’r rhaglenni Cymraeg dw i’n hoffi ar y teledu yn hwyr yn y nos a dw i yn y gwely.
Mae llawer o bobl eisiau sianel Gymraeg. Mae rhai pobl yn protestio.
Roedd y llywodraeth yn Llundain yn mynd i roi sianel Gymraeg i ni ond newidion nhw eu meddwl yn 1979. Nawr, mae un dyn – Gwynfor Evans – yn mynd i wneud rhywbeth anhygoel!
Mae Gwynfor Evans yn mynd i lwgu. Dydy e ddim yn mynd i fwyta os dydy llywodraeth Llundain ddim yn rhoi sianel Gymraeg i ni. Mae e’n mynd i lwgu i farwolaeth os oes angen!
Bobl bach! Dw i’n teimlo’n ddiflas.
01 Tachwedd, 1982
Dw i’n teimlo’n hapus iawn, iawn achos heno am chwech o’r gloch dechreuodd S4C – sianel deledu Gymraeg – o’r diwedd! Nawr, mae pedair sianel ar y teledu – ddim tair.
Am chwech o’r gloch, daeth Siwperted ar y sgrin – cartŵn newydd yn Gymraeg am dedi arbennig iawn. Yna, roedd y newyddion ac roedd y newyddion yn dda iawn – sianel Gymraeg newydd!
Bydd 20 awr o raglenni Cymraeg ar y sianel bob wythnos – byddwn ni’n cael dwy opera sebon – Coleg a Pobol y Cwm – dydy Pobol y Cwm ddim yn newydd – mae hi wedi bod ar BBC ers 1974 ond rŵan mae hi ar S4C! Rydyn ni’n mynd i gael pob math o raglenni – rhaglenni newyddion, rhaglenni dogfen, dramâu, ffilmiau, rhaglenni plant, rhaglenni cwis, rhaglenni comedi a chwaraeon a rhaglenni ffermio – a mwy. Dw i’n methu aros. Dw i mor hapus!
Mae pawb yn hapus heno. Mae’r Cymry Cymraeg yn hapus i gael sianel deledu Gymraeg ac mae’r bobl ddi-Gymraeg yn hapus achos does dim rhaglenni Cymraeg ar y sianeli eraill nawr.
Nos da. Dw i’n edrych ymlaen at raglenni Cymraeg nos yfory.