Mae rhai pobl yn cadw anifeiliaid anwes “gwahanol”.
Darllenwch y cliwiau i weld beth ydy'r anifeiliaid.
Anifail 1
|
Gogledd Cymru |
De Cymru |
|
Mae o’n fawr. Mae ei gorff o tua 158-250 cm. Mae ei gynffon o tua 60-100 cm. Mae o’n gryf iawn. Mae o’n frown. Mae ganddo fo bedair coes a phedair pawen. Mae ganddo fo geg fawr a dannedd cryf. Mae o’n bwyta cig. Mae o’n byw yn Affrica fel arfer. |
Mae e’n fawr. Mae ei gorff e tua 158-250 cm. Mae ei gwt e tua 60-100 cm. Mae e’n gryf iawn. Mae e’n frown. Mae pedair coes a phedair pawen gyda fe. Mae ceg fawr a dannedd cryf gyda fe. Mae e’n bwyta cig. Mae e’n byw yn Affrica fel arfer. |
Anifail 2
| Gogledd Cymru | De Cymru |
|
Mae o’n hir. Mae ei gorff o tua 4.3-5.0 m. Mae o’n gryf iawn. Mae o’n llwyd-wyrdd. Mae ganddo fo bedair coes a thrwyn hir. Mae ganddo fo geg fawr a dannedd cryf. Mae o’n bwyta cig a physgod. Mae o’n byw yn Affrica, Asia neu Awstralia fel arfer. |
Mae e’n hir. Mae ei gorff e tua 4.3-5.0 m. Mae e’n gryf iawn. Mae e’n llwyd-wyrdd. Mae pedair coes a thrwyn hir gyda fe. Mae ceg fawr a dannedd cryf gyda fe. Mae e’n bwyta cig a physgod. Mae e’n byw yn Affrica, Asia neu Awstralia fel arfer. |
Beth ydy'r anifeiliaid? Ewch i'r adran Atebion.
Mae rhai pobl yn Mhrydain yn cadw anifeiliaid anwes “anarferol” iawn. Dyma rai o’r anifeiliaid anwes “anarferol”:

Bobl bach!
| corff | body |
| cynffon | tail |
| cwt | tail |
| cryf | strong |
| pawen | paw |
| dannedd | teeth |
| llwyd-wyrdd | grey-green |
| trwyn | nose |
| anarferol | unusual |
| estrys | ostrich |
| llewpard | leopard |