Rhifyn 15 - Mynegi barn

Mmm – siocled!

postcard
Slide background

Annwyl Chris,
Sut mae – a sut mae Mot?

Dw i’n aros yng Nghwlen (Cologne), yr Almaen, gyda Dad a dw i’n cael amser grêt. Mae’r ddinas yn hardd ac mae llawer o bethau i wneud ac i weld yma.

Mae’r tywydd yn wych – mae hi’n braf a heulog bob dydd. Heddiw, dw i wedi gweld siocled; dw i wedi dysgu am siocled; dw i wedi blasu siocled; dw i wedi gwneud siocled a dw i wedi bwyta siocled (llawer o siocled!) yn yr amgueddfa siocled! Gwych – a blasus iawn! Dw i wedi prynu siocled i fy ffrindiau i gyd – byddan nhw’n hapus iawn, dw i’n meddwl.

Wela i di ddydd Sadwrn – edrych ymlaen (ond dw i ddim yn edrych ymlaen at adael Cwlen!)

Cariad,
Jo

Geirfa
   

aros

(to) stay

Yr Almaen

Germany

llawer o bethau

lots of things

blasu

(to) taste

amgueddfa

museum

prynu

(to) buy

byddan nhw’n

they will be

Wela i di ...

See you ...

edrych ymlaen

(to) look forward

gadael (to) leave