Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
Geirfa
|
|
cwmni |
company |
rhoi eich barn chi |
(to) give your opinion |
blasus |
tasty, delicious |
sbeislyd |
spicy |
hallt |
salty |
halen |
salt |
gormod |
too much |
melys |
sweet |
mefus |
strawberries |
betys |
beetroots |
braidd yn ... |
rather ... |
cnau mwnci |
peanuts |
cnau |
nuts |
y rhain |
these |
Merch: |
Esgusodwch fi, ydych chi’n hoffi creision? |
Bachgen: |
Ydw. Wrth gwrs. |
Merch: |
Dw i’n gweithio i gwmni creision ac rydyn ni’n gwneud creision newydd. |
Bachgen: |
O? |
Merch: |
Ga i ofyn cwestiynau i chi? |
Bachgen: |
Cewch. |
Merch: |
Iawn ... Yn gyntaf, eich enw chi ... beth ydy’ch enw chi? |
Bachgen: |
Will Rees. |
Merch: |
Diolch, Mr Rees. Dw i eisiau i chi fwyta creision ... |
Bachgen: |
O, gwych!!! |
Merch: |
... ac yna roi eich barn chi. |
Bachgen: |
Grêt. Bwyta creision ... ac yna rhoi barn. Ardderchog! |
Merch: |
Diolch. Creision A: |
Bachgen: | |
Merch: |
“Eitha sbeislyd.” Diolch. Creision B: |
Bachgen: |
Mmm – iawn – eitha hallt. |
Merch: | |
Bachgen: | |
Merch: |
Diolch. Creision C. |
Bachgen: |
Lliw diddorol. .... Blasus ond gwahanol. |
Merch: |
“Blasus ond gwahanol.” |
Bachgen: |
Eitha melys, dw i’n meddwl. Ga i un arall os gwelwch yn dda? |
Merch: |
Cewch, wrth gwrs. |
Bachgen: |
Na ... dw i ddim yn hoffi creision C. |
Merch: |
Pam? |
Bachgen: |
Maen nhw’n felys ... yn rhy felys. Beth ydyn nhw? |
Merch: | |
Bachgen: | |
Merch: | Diolch am eich barn chi. |
Merch: |
Esgusodwch fi, ydych chi’n hoffi creision? |
Merch 2: |
Wrth gwrs. |
Merch: |
Dw i’n gweithio i gwmni creision ac rydyn ni’n gwneud creision newydd. |
Merch 2: |
O? |
Merch: | Ga i ofyn cwestiynau i chi os gwelwch yn dda? |
Merch 2: |
Cewch. |
Merch: |
Iawn ... Yn gyntaf, eich enw. Beth ydy’ch enw? |
Merch 2: |
Sioned Williams. |
Merch: |
Diolch. Dw i eisiau i chi fwyta creision ... |
Sioned: |
Iawn! |
Merch: |
... ac wedyn rhoi eich barn chi. |
Sioned: |
Grêt - bwyta creision a rhoi barn. Dim problem! |
Merch: |
Diolch. Creision A: |
Sioned: | |
Merch: |
Ydyn nhw’n rhy sbeislyd? |
Sioned: |
Ydyn – maen nhw’n rhy sbeislyd i fi. Beth ydyn nhw? |
Merch: |
Creision cyrri. |
Sioned: |
Bobl bach! |
Merch: |
Diolch. Creision B: |
Sioned: | |
Merch: | |
Sioned: |
Maen nhw fel cnau mwnci gyda gormod o halen. Dydy’r creision yma ddim yn iach – mae gormod o halen ar y creision yma. Beth ydyn nhw? |
Merch: |
Creision cnau ... Iawn ... Creision C. |
Sioned: |
Lliw diddorol .... www, gwahanol ... braidd yn felys. Dw i’n hoffi’r rhain. Beth ydyn nhw? |
Merch: | |
Sioned: |
Waw – creision mefus a betys? Diddorol iawn. Mae’r rhain yn iach – betys a mefus – dyna ddau o’r “pump bob dydd”. |
Merch: |
Pardwn? |
Sioned: |
Pump bob dydd ... |
Sioned: |
... five a day. |
Merch: |
O, wrth gwrs. Diolch am eich barn chi. |
Edrychwch:
Dw i eisiau creision. I want some crisps.
Dw i eisiau help. I want help.
OND os oes person arall:
Dw i eisiau i chi fwyta creision. I want you to eat some crisps.
Dw i eisiau i chi ateb cwestiynau. I want you to answer some questions.
Hefyd:
Dw i eisiau i chi wrando. I want you to listen.
Dw i eisiau i chi ddarllen. I want you to read.
Dw i eisiau i chi ysgrifennu. I want you to write.
Dw i eisiau i chi wylio’r ffilm. I want you to watch the film.
Beth ydy’r patrwm?