Rhifyn 15 - Mynegi barn

Wyth munud os gwelwch yn dda!

Annwyl Ciwb

Mae ysgol yn Lloegr yn dysgu gwersi 8 munud – ie wyth munud!  Dw i’n cael gwersi awr yn yr ysgol yma – 60 munud. Maen nhw’n rhy hir.

Sut mae’r gwersi wyth munud yn gweithio?

Mae’r disgyblion yn dysgu rhywbeth am wyth munud, yna maen nhw’n cael egwyl - brêc. Maen nhw’n chwarae gêm neu maen nhw’n mynd allan i wneud 10 munud o chwaraeon. Yna, maen nhw’n dod yn ôl i’r wers am 8 munud arall ac yn mynd dros y gwaith eto. Yna, maen nhw'n cael egwyl arall - mwy o gemau neu chwaraeon. Yna, maen nhw’n dod yn ôl i’r wers ac maen nhw’n mynd dros y gwaith eto - cyn cael egwyl arall o ddeg munud. 

Felly, mewn sesiwn, dw i’n cael 60 munud o wers ond maen nhw’n cael:

  • 8 munud o wers
  • 10 munud o chwarae
  • 8 munud o wers
  • 10 munud o chwarae
  • 8 munud o wers
  • 10 munud o chwarae.

Mae’n wych!  Mae’n anhygoel! Mae’n ffantastig!

Pam maen nhw’n dysgu mewn gwersi 8 munud? Achos mae ymchwil yn dangos bod disgyblion yn dysgu’n well os ydy’r ymennydd yn cael egwyl ar ôl 8 munud.

Dw i eisiau gwersi 8 munud!

Hwyl fawr,

Matt Williams

Geirfa
   
egwyl break
yn ôl after
cyn cael before having
anhygoel incredible
ymchwil research
yn well better
ymennydd brain