Edrychwch ar y ddau lun yma ac ewch i Dasg 1.
Llun 1
Llun 2
Detroit
Mae'r tai yn y lluniau yn Detroit, yng Ngogledd America.
Mae problemau mawr mewn rhai ardaloedd yn Detroit - dim gwaith ... dim arian.
Edrychwch ar y lluniau yma.
Llun 3
Llun 4
Mae'r strydoedd yn ddiflas. Mae'r tai'n dywyll. Mae'r gerddi'n flêr neu'n anniben. Mae problemau eraill hefyd - cyffuriau a gynnau. Mae'n ardal drist.
Prosiect Heidelberg
Achos y problemau, penderfynodd un artist helpu'r ardal. Sut? Edrychwch yn ofalus ar y lluniau nesa - dyma brosiect arbennig ar Stryd Heidelberg, Detroit:
Llun 5
Llun 6
Yn 1986, dechreuodd yr artist Tyree Guyton a grŵp o blant yr ardal wneud gwaith celf yn y stryd. Clirion nhw'r sbwriel a dechreuon nhw beintio'r tai a gwneud gwaith celf. Roedden nhw'n defnyddio'r sbwriel yn eu gwaith celf.
Heddiw, mae Stryd Heidelberg, y coed, y tai a'r adeiladau'n lliwgar ac yn hyfryd. Hefyd, mae Tyree Guyton a'r plant wedi rhoi cerfluniau yn y stryd, fel y rhain:
Beth ydych chi'n meddwl?
Geirfa
tai | houses |
rhai | some |
ardaloedd | areas |
tywyll | dark |
blêr | untidy |
anniben | untidy |
cyffuriau | drugs |
gynnau | guns |
penderfynu | (to) decide |
ardal | area |
clirio | (to) clear |
adeiladau | buildings |
cerfluniau | sculptures |