Edrychwch ar y lluniau ac atebwch y cwestiynau cyn clicio ar yr ateb.
 
Llun - paentiad - ydy hwn.
Glas, coch, melyn, oren a du.
Does dim enw ar y llun.
Does dim teitl ar y llun.
Yn y Museum of Bad Art ym Massachusetts, Gogledd America.

Paentiad ydy hwn.
Gwyrdd, oren, melyn a du.
William F. Murphy.
"Drilling for eggs" - Drilio am wyau.
Yn y Museum of Bad Art ym Massachusetts, Gogledd America.
Mae’r amgueddfa ym Massachusetts, Gogledd America ac ar-lein:
http://www.museumofbadart.org/collection/
Beth sy yn yr amgueddfa?
Celf wael – lluniau gwael, paentiadau gwael ...
ond ...
lluniau cyffrous, lliwgar – dydyn nhw ddim yn ddiflas!
Pwy ddechreuodd yr amgueddfa?
Scott Wilson.
Pwy oedd e?
Roedd e’n gwerthu hen bethau.
Sut ddechreuodd e’r amgueddfa?
Un diwrnod, gwelodd e lun ar y palmant – roedd y llun gyda’r sbwriel, yn aros am y lori sbwriel.  Cymerodd e’r llun. Dangosodd e’r llun i ffrind, Jerry Reilly. Roedd e’n hoffi’r llun. Dechreuon nhw gasglu lluniau gwael.
Diddorol!
| cyn | before | 
| paentiad | painting | 
| amgueddfa | museum | 
| gwael | bad | 
| dechrau | (to) begin | 
| gwerthu | (to) sell | 
| hen bethau | antiques | 
| palmant | pavement | 
| aros am | (to) wait for | 
| sbwriel | rubbish | 
| cymryd | (to) take | 
| dangos | (to) show | 
| casglu | (to) collect |