Rhifyn 17 - Y Gorffennol Pell

Clogyn yr Wyddgrug

Clogyn yr Wyddgrug

Clogyn yr Wyddgrug

Amser maith yn ôl, roedd hen wraig yn cerdded ar y ffordd ger Bryn yr Ellyllon, yn yr Wyddgrug, yn y nos. Roedd hi wedi clywed storïau ysbrydion am yr ardal ond doedd hi ddim yn teimlo’n ofnus achos roedd hi’n cerdded yma yn aml. 

Yn sydyn, gwelodd hi berson ifanc yn croesi’r ffordd. Roedd y person ifanc yn gwisgo clogyn o aur. Cerddodd y person ifanc i mewn i’r bryn – ie, i mewn i’r bryn!

***

Yn 1833, roedd gweithwyr yn gweithio ger Bryn yr Ellyllon. Un diwrnod, ffeindion nhw fedd yn y bryn ac yn y bedd roedd sgerbwd, gleiniau a chlogyn hardd o aur.

Y sgerbwd:

  • Pwy oedd y sgerbwd?
    Does neb yn gwybod.

Y gleiniau – o ble?

  • Does neb yn gwybod o ble roedd y gleiniau wedi dod. O ardal y Baltig, efallai. Mae’n bosib bod pobl o Ewrop wedi dod i Ogledd Cymru i werthu neu gyfnewid nwyddau ambr am nwyddau efydd. Roedd pobl yn teithio o Ewrop i Ogledd Cymru yr amser yma.

Y clogyn:

  • Pwy oedd wedi gwisgo’r clogyn?
    Does neb yn gwybod, ond person ‘bach’ neu berson ifanc mae’n siŵr. Merch ifanc efallai.
  • Pwy oedd wedi gwneud y clogyn?
    Does neb yn gwybod, ond mae’r clogyn yn hardd iawn ac felly roedd y person yna’n glyfar iawn.
  • Beth oedd y clogyn?
    Clogyn ar gyfer seremoni oedd o efallai, ond does neb yn siŵr.

Mae’r clogyn yn arbennig iawn. Does dim clogyn debyg yn Ewrop ac felly mae hi’n saff yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain nawr.

Mae copi o’r clogyn yn yr amgueddfa yn yr Wyddgrug, ond mae pawb yn gallu ei gweld hi heddiw.

Ble? Ar stamp arbennig gan Swyddfa’r Post – stamp £1.52.

stamp

llun gan David Monniaux / CC GAN

 

Geirfa
   
clogyn cape
amser maith yn ôl a long time ago
gwraig woman
ysbrydion ghosts
aur gold
bedd grave
sgerbwd skeleton
gleiniau beads
gwerthu (to) sell
cyfnewid (to) exchange
nwyddau goods
ambr amber
efydd bronze
yr Oes Efydd the Bronze Age
saff safe
Amgueddfa Brydeinig British Museum
amgueddfa museum