Rydych chi'n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad.
Yn gyntaf, dyma rai geiriau i'ch helpu chi, os ydych chi eisiau help.
Geirfa| achos da | good cause |
| uchaf | highest |
| paratoi | (to) prepare |
| cadw'n heini | (to) keep fit |
| ymarfer | (to) exercise |
| felly | therefore |
| cryf | strong |
| copa | summit |
| gorau | best |
|
Cyflwynydd:
|
Croeso i raglen arall o “Bobl bach!”. Heddiw, yn y stiwdio, mae Ceri Pryce. Bore da, Ceri. |
|
Ceri: |
Bore da. |
|
Cyflwynydd:
|
Pwy ydy Ceri Pryce? Wel, mae hi wedi dringo mynydd Kilimanjaro, yn Affrica. Pam? I godi arian at achos da. Croeso i’r stiwdio, Ceri. |
|
Ceri: |
Diolch yn fawr. |
|
Cyflwynydd: |
Pryd aethoch chi i fyny Kilimanjaro? |
|
Ceri: |
Ym mis Chwefror. |
|
Cyflwynydd: |
Pam Kilimanjaro? |
|
Ceri: |
Wel, dyma fynydd uchaf Affrica. Mae’r mynydd yn bum mil, wyth cant naw deg pump metr. |
|
Cyflwynydd: |
Wrth gwrs. … Sut oeddech chi wedi paratoi? |
|
Ceri: |
Roedden ni wedi bod yn cadw’n heini. |
|
Cyflwynydd: |
Cadw’n heini … sut? |
|
Ceri: |
Roedden ni wedi cerdded … |
|
Cyflwynydd: |
.. o, cerdded … |
|
Ceri: |
… ac roedden ni wedi beicio … |
|
Cyflwynydd: |
… beicio … |
|
Ceri: |
… ac roedden ni wedi bod yn ymarfer yn y ganolfan hamdden … |
|
Cyflwynydd: |
… ymarfer yn y ganolfan hamdden. Roeddech chi’n heini iawn, felly. |
|
Ceri: |
Wrth gwrs. |
|
Cyflwynydd: |
Beth oeddech chi wedi pacio? |
|
Ceri:
|
Roedden ni wedi pacio esgidiau cerdded da – esgidiau cerdded cryf iawn – a dillad cerdded – trowsus da, fflîs, sanau cerdded da. Roeddwn i wedi pacio camera hefyd. |
|
Cyflwynydd: |
Sut oedd y daith i gopa Kilimanjaro? |
|
Ceri: |
Anodd – ond gwych! |
|
Cyflwynydd: |
Gwych? |
|
Ceri: |
Roedd sefyll ar gopa Kilimanjaro yn anhygoel – y profiad gorau yn y byd. Ffantastig! |
|
Cyflwynydd:
|
“Ffantastig!” Da iawn ... Ceri, beth am wrando ar ddarn o gerddoriaeth … ac yna, byddwn ni’n dod yn ôl i siarad gyda chi eto. |
|
Ceri: |
Iawn. |