Mae Tomos Land yn 15 oed ac mae o'n mynd i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Mae o ym Mlwyddyn 10.
Mae o'n mwynhau rhedeg, beicio mynydd a beicio ffordd, chwaraeon tîm fel pêl-droed a rygbi.
Mae o'n mwynhau rhedeg yn fawr iawn ac mae o'n rhedeg mewn llawer o rasys pwysig.
Dyma rai o'r rasys:
Enw'r ras | Ble | Blwyddyn | Safle |
British Cross Challenge (Cyfres o rasys) | Lerpwl, Caerdydd, Milton Keynes, Birmingham ac Antrim, Gogledd Iwerddon | 2016 | Yn y 20 cyntaf ym mhob ras. Roedd tua 400 - 500 o redwyr ym mhob ras ac roedd Tomos yn rhedeg yn erbyn bechgyn hŷn na fo. |
Ras draws gwlad ysgolion Cymru | Aberhonddu | 2016 | seithfed (7fed) |
Ras yr Wyddfa | Llanberis | Bob blwyddyn o 7 oed tan 13 oed |
cyntaf (1af) (6 gwaith) ail (2il) (unwaith) |
Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd Cymru | Llanberis - Eryri | 2016 | cyntaf (1af) |
Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd Prydain | Church Stretton, Lloegr | 2016 | ail (2il) |
Pryd dechreuaist ti redeg?
Fy ras gyntaf oedd Ras y Gogarth, Llandudno, pan oeddwn i'n 6 oed. Gorffennais i’n nawfed (9fed). Roeddwn i'n wên o glust i glust!
Ym Mlwyddyn 3 enillais i un o rasys yr Urdd – Ras y Faenol. Roedd disgyblion Conwy, Gwynedd a Môn yn rhedeg. Roeddwn i'n wên o glust i glust eto!
Ym Mlwyddyn 9, ymunais i â chlwb athletau Menai, ym Mangor, a dechreuais i redeg o ddifri.
Sut wyt ti’n paratoi ar gyfer ras?
Dw i'n cerdded y cwrs cyn y ras achos dw i eisiau gweld ble mae’r lleoedd anodd. Dw i’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth ar y ffôn pan dw i'n paratoi.
Siarada am un ras yn arbennig os gweli di’n dda.
Ym mis Ionawr 2016, es i i redeg ras yn Antrim, Gogledd Iwerddon. Arhosodd dau ffrind (Cai ac Eden) a fi mewn gwesty yn Belfast.
Ar fore’r ras, ces i dost a dŵr i frecwast. Roeddwn i wedi cynhyrfu. Doedd neb yn siarad yn y car ar y ffordd i'r ras.
Pan es i at y llinell gychwyn, roeddwn i'n teimlo nerfus dros ben. Roedd hi’n oer iawn – roedd hi’n rhewi ac roedd hi’n dechrau bwrw eira.
Gorffennais i’r ras yn ddeunawfed (18fed), dim fy ras orau ond roeddwn i’n hapus.
Pam wyt ti’n mwynhau rhedeg?
Dw i’n mwynhau achos dw i’n mynd i leoedd newydd a dw i’n gwneud ffrindiau newydd.
Oes rhywbeth doniol wedi digwydd i ti?
Collais i fy esgidiau unwaith pan oeddwn i’n rhedeg a gorffennais i’r ras heb esgidiau.
Beth wyt ti’n gobeithio?
Un diwrnod, hoffwn i gynrychioli'r Deyrnas Unedig. Dw i'n gobeithio cynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth Ewropeaidd hefyd.
cyfres | series |
hŷn | older |
traws gwlad | cross country |
pencampwriaeth | championship |
yn wên o glust i glust | like a Cheshire cat; smiling from ear to ear |
ymuno â | (to) join |
o ddifri | seriously |
lleoedd | places |
wedi cynhyrfu | excited, agitated |
llinell gychwyn | starting line |
cynrychioli | (to) represent |
y Deyrnas Unedig | the United Kingdom |
gobeithio | (to) hope |