Sŵs - da neu ddrwg?
Rydych chi'n mynd i wrando ar ddau berson yn siarad ond cyn gwrando, dyma ychydig o help i chi.
Geirfa
|
|
cael |
can, (to) be allowed to |
pris |
price |
lle |
place |
creulon |
cruel |
hela |
(to) hunt |
rhydd |
free |
caets |
cage |
gofalu am |
(to) care for |
prin |
rare |
Loading the player...
Sgript
|
|
Jo: |
Edrycha ar y poster yma. "Bargen - dau am un yn y sŵ dydd Sadwrn." |
Ceri: |
Pardwn? |
Jo: |
"Bargen - dau am un yn y sŵ dydd Sadwrn." |
Ceri: |
Dw i ddim yn deall. |
Jo: |
Mae dau berson yn cael mynd i mewn i'r sŵ am bris un person dydd Sadwrn. |
Ceri: |
O, dw i'n gweld ... Mae un person yn talu ac mae un person yn mynd i mewn am ddim. |
Jo: |
Dyna ni. Beth am fynd, Ceri? |
Ceri: |
I ble? |
Jo: |
I'r sŵ. |
Ceri: |
Dim diolch. Plant bach sy'n mynd i'r sŵ. |
Jo: |
Na - mae'n lle da i weld anifeiliaid gwahanol. |
Ceri: |
Dim diolch. Plant bach sy'n mynd i'r sŵ - nid pobl ifanc fel ni. |
Jo: |
Wel, dw i'n hoffi gweld jiraffod ... camelod ... eliffantod ... mwncïod ... teigrod ... llewod ... ac anifeiliaid eraill. |
Ceri: |
Ond mae'n greulon. |
Jo: |
Creulon?!? |
Ceri: |
Ydy, mae'n greulon iawn. |
Jo: |
Sut mae'r sŵ'n greulon? |
Ceri: |
Mae cau anifeiliaid mewn sŵ yn greulon. Mae anifeiliaid eisiau bod yn y jyngl ... neu yn Affrica ... neu yn Awstralia. Maen nhw eisiau rhedeg ... a hela ... Maen nhw eisiau bod yn rhydd, ddim mewn caets. |
Jo: |
Ond mae sŵs yn gwneud gwaith da. |
Ceri: |
Sut maen nhw'n gwneud gwaith da? |
Jo: |
Maen nhw'n gofalu am anifeiliaid prin. |
Ceri: |
Anifeiliaid prin? |
Jo: |
Anifeiliaid fel y panda neu'r teigr - maen nhw'n brin iawn ond mae sŵs yn gofalu am yr anifeiliaid yma. |
Ceri: |
Ydyn, ond ... |
Jo: |
Ac mae pobl - plant bach a phobl ifanc yn gallu mynd i weld yr anifeiliaid yma. |
Ceri: |
Ydyn, ond dw i ddim eisiau mynd i'r sŵ ddydd Sadwrn nesaf, diolch yn fawr. |
Jo: |
O! |