Mae’r gerdd yma’n sôn am dîm pêl-droed gwahanol iawn.
Darllenwch y gerdd a ffeindiwch 10 o bethau rhyfedd am y tîm. Mae’r atebion yn Tasg 1.
Tîm pêl-droed yr ysgol
Mae tîm pêl droed yr ysgol
pob un mewn trowsus hir,
pob un yn gwisgo sandals
neu, weithiau, dwy fflip-fflop
pob un yn gwisgo capan
â bobble ar y top.
Mae deg o fechgyn heini
yn chwarae yn y tîm.
Mae Joshua ac Alfred
ac Idris a Yassim.
Mohammed ac Andrea
a Capten Marc a Cai.
Mae Colin yn y canol
a’r goli ydy Dai.
Mae Josh yn dda am gicio
a driblo’r bêl fach lwyd.
Mae Dai yn wych am daflu
y bêl i mewn i’r rhwyd.
Mae Cai yn grêt am gario
y bêl ar draws y parc,
cyn taflu’r bêl i Idris
i’w phasio ’mlaen i Marc.
Mae tîm pêl-droed yr ysgol
yn dîm gwahanol iawn,
yn chwarae yn y bore
a chysgu drwy’r prynhawn.
Ryw ddydd, fe fydd y bechgyn
mewn gwisgoedd smart i gyd
yn chwarae gyda’i gilydd
yn nhwrnamaint y byd.
Non ap Emlyn
Help
| Geirfa | |
| cerdd | poem |
| gwahanol | different |
| pethau | things |
| rhyfedd | strange |
| twp | silly |
| mae’n wir | indeed |
| pob un | each one |
| cynnes | warm |
| hir | long |
| weithiau | sometimes |
| capan | cap |
| canol | centre |
| taflu | to throw |
| rhwyd | net |
| ar draws | across |
| ’mlaen | forwards |
| ryw ddydd | some day |
| fe fydd = mi fydd | will |
| i gyd | all |
| gyda’i gilydd | together |
| twrnamaint | tournament |
sandals
to dribble