Beth am …?

Llysiau’n canu

Ydych chi’n hoffi llysiau?

array-instruments.jpg

 "The Vegetable Orchestra" - Instruments. Lluniau gan Alexander Koller.

 

Ydych chi’n hoffi bwyta llysiau – mewn stiw neu stir-fry neu ar pizza?

Ydych chi’n hoffi yfed llysiau – mewn cawl neu sŵp neu mewn smoothie?

Ond …

… ydych chi’n hoffi gwrando ar lysiau?

 

Gwrando ar lysiau?

Ydy, mae hi’n bosib gwrando ar lysiau. Gwyliwch a gwrandewch:

00:00
00:00
 
Y gerddorfa lysiau
Y gerddorfa lysiau

Pwy?

Y gerddorfa lysiau – neu Das erste Wiener Gemüseorchester.

Ble?

Vienna, Awstria – ond maen nhw’n perfformio ar draws y byd.

Beth?

Mae’r gerddorfa’n creu cerddoriaeth – allan o lysiau.

Sut?

Maen nhw’n gwneud offerynnau – allan o lysiau. Maen nhw’n chwythu ac yn taro’r offerynnau.

"The Vegetable Orchestra" - Group photo. Lluniau gan  Zoefotografie.

Pa fath o offerynnau?

Maen nhw’n gwneud trympedau allan o courgettes, bongos allan o seleri, cucumberophones allan o giwcymbrau a recorders allan o foron.

O ble mae’r llysiau’n dod?

Mae’r bobl yn mynd i’r farchnad i brynu llysiau ffres. Yna, maen nhw’n gwneud yr offerynnau ac maen nhw’n perfformio gyda’r offerynnau. 

Pa fath o gerddoriaeth?

Mae’r gerddorfa’n perfformio cerddoriaeth fodern, cerddoriaeth bît, cerddoriaeth electronig, jazz a dub

Ble maen nhw’n perfformio?

Ar draws y byd. 

Ac ar ôl y perfformiad?

Mae pawb yn cael powlen o gawl llysiau ffres.

Blasus!

Help
Beth ydy’r geiriau Saesneg?

trympedau

ciwcymbrau

perfformio

ffres

cerddoriaeth bît

 

 

Lluniau gan Alexander Koller a Zoefotografie. Diolch i'r "The Vegetable Orchestra".