Dylech chi ...

Arian! O ble mae’n dod? I ble mae’n mynd?

Pobl ifanc ac arian

Gwario ...

  • Mae Lyn yn ffasiynol. Mae hi’n prynu dillad gyda’r labeli enwog. Mae hi’n prynu siampŵ drud. Mae hi’n gwario llawer o arian.

 arian.jpg (1)

  • Mae Matt yn ffasiynol hefyd ond mae o’n prynu dillad mewn archfarchnad weithiau – a dillad ar y sêl. Mae o’n defnyddio siampŵ o’r archfarchnad. Mae o’n hoffi mynd allan bob dydd Sadwrn gyda’i ffrindiau.

T Shirt.jpg

  • Mae Alys yn ffasiynol hefyd. Fel Matt, mae hi’n prynu dillad mewn archfarchnad weithiau - ac, fel Lyn, mae hi’n prynu dillad gyda’r labeli enwog - ond pan maen nhw ar y sêl. Mae hi’n prynu o siopau ail-law hefyd. Mae hi’n defnyddio siampŵ o’r archfarchnad ac mae hi’n prynu bargeinion, e.e. tair potel o siampŵ am bris dwy botel.

Shampoos.jpg

Mae Lyn, Matt ac Alys yn 16 oed ond maen nhw’n wahanol iawn.

Gweithio

Mae’r tri’n gweithio i gael arian. Mae Lyn yn helpu ei mam yn y siop trin gwallt weithiau; mae Matt yn gwneud rownd bapur ac mae Alys yn helpu yn siop y teulu.

Safio

Dydd Sadwrn.jpg

Dydy Lyn ddim yn safio. Mae Alys yn fwy gofalus. “Pan dw i’n cael arian, dw i’n gwario peth a dw i’n safio peth. Os ydw i’n safio £2 yr wythnos nawr, bydda i’n gallu talu am wersi gyrru pan fydda i’n 17 oed,” meddai hi.

Mae’r tri’n cael arian fel anrhegion pen-blwydd ac anrhegion Nadolig weithiau. Mae Matt ac Alys yn safio peth o’r arian yma.

Benthyg

Ydyn nhw’n benthyg arian weithiau?

“Dw i’n benthyg arian oddi wrth Mam, weithiau,” meddai Lyn.

“Dw i ddim yn benthyg arian,” meddai Matt. “Os dw i ddim yn gallu talu am rywbeth, dw i’n safio ac yna dw i’n prynu.”

Benthyg arian?” meddai Alys. “Na, dw i ddim eisiau benthyg arian. Os ydych chi’n benthyg arian, rhaid i chi dalu mwy o arian yn ôl.”

Cardiau

Credit Cards.jpg

Dydy’r bobl ifanc ddim yn defnyddio cardiau credyd. Mae hyn yn dda iawn achos mae defnyddio cardiau credyd yn gallu bod yn ddrud.

Help
Geirfa
enwog famous
gwario to spend
defnyddio to use
drud expensive
ail-law second hand
safio to save (money)
yn fwy gofalus more careful
peth some
gyrru to drive
meddai said
benthyg to borrow
digon (o) enough
talu to pay

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

fashionable

shampoo

bargains