Dylech chi ...

Dyn trydan

Dyn trydan
Dyn trydan

Edrychwch ar y cerflun yma.

Gwnewch y llun yn fwy os ydych chi eisiau.

dyn-trydan-crop1.jpg


Beth ydych chi’n gallu gweld yn y cerflun?

Yn y cerflun mae:

  • hwfers
  • darnau o gyfrifiaduron
  • peiriant golchi dillad
  • ceblau

a llawer mwy o offer trydanol ac electronig.


Edrychwch ar y dannedd – beth ydyn nhw?

Llygod cyfrifiaduron ydyn nhw.


Edrychwch ar y clustiau – beth ydyn nhw?

Dysglau lloeren ydyn nhw.


Beth mae’r cerflun yn dangos?

Mae’r cerflun yn dangos faint o offer trydanol ac offer electronig mae un person ym Mhrydain yn taflu i ffwrdd yn ei fywyd.


Pam mae pobl yn taflu’r offer trydanol ac electronig i ffwrdd?

Cwestiwn da. Ydych chi’n gwybod yr ateb?

 


Help
Geirfa
trydan electric
cerflun sculpture
darnau pieces
offer equipment, gadgets
trydanol electrical
dannedd teeth
llygod  mice 
clustiau ears
dysglau dishes
lloeren satellite
taflu i ffwrdd to throw away
ei fywyd his life
celf art

Beth ydy’r gair?

cerflun – cerfio (to carve) + llun (picture) = sculpture