Dylech chi ...

Problemau!

Croeso i dudalen problemau Ciwb.

[Mae pawb wedi ysgrifennu cyfeiriad ar y llythyrau ond dydyn ni ddim eisiau dangos y cyfeiriadau.]

Annwyl Ciwb,

Mae gen i broblem. Mae parti nos Sadwrn yn y ganolfan hamdden a dw i eisiau mynd gyda fy ffrindiau ond mae Dad yn dathlu ei ben-blwydd ddydd Sadwrn ac mae o eisiau mynd allan “fel teulu”.

Ydych chi’n gallu helpu os gwelwch yn dda? 

Diolch.

 

Evan

Annwyl Ciwb,

Mae gen i ffrind da iawn yn yr ysgol. Rydyn ni’n cael llawer o hwyl ond dydy fy ffrind i ddim eisiau mynd allan gyda fi ar ddydd Sadwrn. Dw i’n gofyn, “Beth am fynd i’r sinema?” neu “Beth am fynd i’r dref?” neu “Beth am fynd i’r gêm?” ond “Dim diolch” ydy’r ateb bob tro.

Ydych chi’n gallu helpu os gwelwch yn dda?

Diolch.

Lyn

Annwyl Ciwb,

Dw i eisiau dysgu Cymraeg yn dda ond does dim llawer  o bobl yn siarad Cymraeg yn yr ardal.

Ydych chi’n gallu helpu os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr.

Hiroki

Annwyl Ciwb,

Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed a hoffwn i chwarae pêl-droed i dîm y dref ond dw i ddim yn ddigon da. Dw i ddim yn hoffi chwaraeon yn yr ysgol ond rhaid i mi fod yn fwy heini.

Ydych chi’n gallu helpu os gwelwch yn dda?

Claire

Annwyl Ciwb,

Dw i mewn cariad gyda rhywun ffantastig ond dw i ddim yn gwybod ydy’r person yma’n fy hoffi i. Dw i eisiau gofyn, “Beth am ddod allan gyda fi brynhawn dydd Sadwrn?” ond dw i’n teimlo’n swil. Beth os ydy’r person yma’n dweud, “Dim diolch”, neu beth os ydy’r person yma’n chwerthin?

Ydych chi’n gallu helpu os gwelwch yn dda?

Diolch.

Sam

Help
Geirfa
cyfeiriad address
dangos to show
dathlu to celebrate
bob tro every time
yr ardal the area
yn ddigon da good enough
bod to be
yn fwy heini  fitter 
rhywun someone
teimlo to feel
 swil shy
chwerthin to laugh